Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Edrychodd y seminar yma ar sut y gall sefydliadau gydweithio i ddarparu'r gwasanaeth cywir yn y lleoliad cywir gyda gwell canlyniadau i ddefnyddwyr sy'n mynychu gwasanaethau cyhoeddus yn aml.
Aml-ddefnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus yw’r rheiny sydd â chyswllt cyson gyda gwasanaeth cyhoeddus penodol neu gyfres ohonynt. Maent yn cyfrannu’n helaeth at y galw ar wasanaethau sy’n arwain at gostau anferth o ran amser ac adnoddau. Gall hyn greu risg o wasanaethau’n methu â chwrdd ag argyfwng.
Mae nifer o wasanaethau cyhoeddus yn treialu ffyrdd newydd o reoli aml-ddefnyddwyr a chwrdd â’u hanghenion. Maent yn rhoi’r offer cywir mewn lle er mwyn rheoli anghenion mewn gwasanaethau nad ydynt yn argyfyngus, gan arwain at faterion yn cael eu datrys yn gynt a phrofiad gwell ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth. Mae gwasanaethau cyhoeddus eraill yn cydweithio er mwyn rhannu gwybodaeth er mwyn adnabod a chwrdd ag anghenion aml-ddefnyddwyr.
Gan ystyried darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, darparodd y seminar hwn cyfle pwysig. Rhoddodd cyfle i wasanaethau cyhoeddus i ddod ynghyd er mwyn ail-ddylunio gwasanaethau sy’n gosod lles y defnyddiwr gwasanaeth a’r boblogaeth ehangach fel canolbwynt. Bydd angen i Gynlluniau Lles Lleol fod wedi eu hystyried yn drwyadl, gan sicrhau eu bod yn llawn gynrychioli’r dinasyddion maent yn eu gwasanaethu. Ni ddylai’r blaenoriaethau sy’n sail i’r cynlluniau hyn gael eu cyfyngu i feysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Yn hytrach, fe ddylent gwmpasu nifer o feysydd i sicrhau fod y gwasanaethau cywir yn cael eu darparu yn y cyd-destun cywir ar gyfer ein dinasyddion.