Cefnogi pobl yn eu cymunedau: Lleihau derbyniadau diangen i’r ysbyty

20 Rhagfyr 2018
  • Yn dilyn ‘Rwyf yn glaf, gadewch fi allan’ ym mis Mawrth, nod y seminar hwn yw ceisio amlygu dulliau arloesol lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn darparu gwasanaethau sy’n helpu i atal derbyniadau diangen i’r ysbyty. 

    Dyma’r gwirionedd... mae’r GIG yn delio gyda dros 1 miliwn o gleifion bob 36 awr. *

    Cafwyd cyfanswm o 16.252 miliwn o dderbyniadau i’r ysbyty yn 2015/16, 28% yn fwy na deg yn gynharach (12.679 miliwn). Gyda disgwyl i boblogaeth y DU gynyddu o tua 64.6 miliwn yng nghanol 2014 i 69.0 miliwn erbyn 2024 a 72.7 miliwn erbyn 2034, mae’r niferoedd hyn yn debygol o gynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. *

    Mae hyn yn alw aruthrol ar ein gwasanaethau iechyd ac nid yw’n gynaliadwy.

    Ar gyfer llawer o unigolion mae’r rheswm cychwynnol am fynychu yn aml yn cuddio anghenion cymhleth. I lawer, nid yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys yw'r lle gorau iddynt fod. Mae’r seminar hwn yn ymwneud â dechrau sgwrs wahanol a meddwl am yr hyn y gellid ei wneud yn wahanol i atal anghenion unigolion rhag gwaethygu i’r pwynt lle maen nhw’n teimlo mai’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yw’r unig opsiwn iddyn nhw.

    Rydym yn cydnabod mai un o'r ffactorau llwyddiant allweddol i gyflawni hyn yw gweithio mewn partneriaeth. Bydd y seminar hwn yn arddangos prosiectau partneriaeth cadarnhaol sydd wedi cefnogi unigolion i gynnal iechyd da ac atal yr angen i gael eu derbyn i’r ysbyty.

    *ffynhonnell: Conffederasiwn GIG [agorir mewn ffenest newydd]

    Ar gyfer pwy mae’r seminar?

    Mae’r seminar wedi’i anelu at swyddogion sy’n gyfrifol am ddatblygu polisi, dylunio gwasanaethau a darparu gwasanaethau o’r canlynol: 

    • gwasanaethau tân ac a
    • heddluoedd
    • awdurdodau lleol – gofal cymdeithasol, tai
    • Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru 
    • sefydliadau iechyd meddwl gan gynnwys elusennau
    • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
    • iechyd, gan gynnwys adrannau achosion brys
    • cymdeithasau tai
    • grwpiau cymunedol
    • rheolwyr gofal preswyl

    Ble a phryd

    9am-1pm
    Dydd Mawrth 5 Chwefror 2019
    Clwb Criced Morgannwg, Gerddi Sophia, Caerdydd

    9am-1pm
    Dydd Iau 14 Chwefror 2019
    Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst, Conwy, LL26 0DF

    Cofrestru

    I gofrestru ar gyfer y seminar, llenwch ein ffurflen cadw lle ar-lein [agorir mewn ffenest newydd]. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd [agorir mewn ffenest newydd] i gynrychiolwyr, sy’n dweud wrthych chi sut rydym yn delio gyda’ch data personol fel rhan o’r broses gofrestru.  

    Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Dylech sicrhau eich bod yn rhoi eich cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn cadw lle er mwyn sicrhau y gallwn anfon gwybodaeth atoch chi.

    Am ragor o wybodaeth ar y digwyddiad, anfonwch e-bost i good.practice@audit.wales

     

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details