Shared Learning Seminar
Buddion Cyffredin: Creu Cydweithrediad Rhwng Cymru a Gwlad y Basg

Ydych chi'n cynllunio gwasanaethau cyhoeddus i gyflawni datrysiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i'r Gymru a Garem?

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Os ydych, dewch i ddysgu o brofiadau Gwlad y Basg (Gogledd Ddwyrain Sbaen), sy'n cael ei gydnabod yn gyffredinol fel rhanbarth dynamig a llwyddiannus.

Pan fyddwch yn ystyried unrhyw un o saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae Gwlad y Basg yn dangos arferion sydd o ddiddordeb ac sy'n berthnasol i Gymru.

Mae rhan o lwyddiant profiad Gwlad y Basg yn gysylltiedig â'r ffordd maent yn trefnu eu cymdeithas, sy'n cynnwys ffocws ar; arloesedd, eu cystadleurwydd fel rhanbarth, entrepreneuriaeth gymdeithasol ac ymddygiadau cydweithredol.

Mae canolbwyntio ar y meysydd hyn yn helpu i greu economi lwyddiannus, cymunedau cadarn ac yn lleihau'r galw ar wasanaethu cyhoeddus.

Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru ac Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd. Bydd yn rhoi'r cyfle i'r rheini sy'n dod i ddysgu am arferion sy'n cyfrannu at lwyddiant Gwlad y Basg, ac i feddwl sut y gellid addasu'r rhain i greu'r Gymru a Garem.

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?

  • Aelodau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus,
  • Uwch Wneuthurwyr Penderfyniadau sy'n ymwneud â'r gwaith o lunio gwasanaethau a mynd i'r afael â'r heriau mawr sy'n wynebu cymdeithas yng Nghymru,
  • Academyddion sydd â diddordeb mewn busnesau cydweithredol, ac
  • Ymarferwyr sy'n cyflawni arloesedd, busnes cymdeithasol a gweithgareddau cydweithredol.

Ble a phryd

10.00am - 4.00pm
Dydd Mawrth 4 Rhagfyr 
Clwb Criced Sir Glamorgan, Sophia Gardens, Caerdydd, CF11 9XR

Cofrestru

I gofrestru, cwblhewch ein ffurflen archebu ar-lein [agorir mewn ffenest newydd]. Rydym yn rhoi hysbysiad preifatrwydd i gynadleddwyr, sy'n rhoi gwybodaeth i chi am y ffordd rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses gofrestru. 
 
Caiff cyfarwyddiadau ymuno eu hanfon 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Cofiwch roi'ch cyfeiriad e-bost wrth gadw lle fel y gallwn anfon gwybodaeth atoch.
 
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru.

#WAOBasque

 

You have no upcoming events
You have no upcoming events

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan

You have no upcoming events