Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae ffocws allweddol y gwaith wedi bod ar drefniadau corfforaethol yr Ymddiriedolaeth ar gyfer sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithlon, yn effeithiol ac yn ddarbodus.
Gyda ffocws penodol ar drefniadau llywodraethu’r sefydliad; ei drefniadau cynllunio strategol; ei drefniadau rheoli ariannol; a threfniadau i reoli’r gweithlu, asedau digidol, yr ystâd, ac asedau ffisegol eraill.
Ar y cyfan, canfuom fod yr Ymddiriedolaeth wedi cymryd camau cadarnhaol i wella agweddau ar ei threfniadau llywodraethu corfforaethol, ond bod angen gwaith pellach i ddarparu’r her fewnol gref a’r dylanwad allanol parhaus sy’n ofynnol i oresgyn rhai o’r heriau gweithredol digynsail y mae’n eu hwynebu ar hyn o bryd.