Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Roedd ein harchwiliad yn edrych a yw trefniadau llywodraethu Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ategu darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, sy'n ddiogel ac yn effeithiol.
Yn gyffredinol, gwelsom, er bod llawer o agweddau trefniadau llywodraethu ansawdd yr Ymddiriedolaeth yn gweithio'n dda, fod angen gwelliannau mewn nifer o feysydd allweddol i sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn cael gwybodaeth lawn ar faterion sy'n ymwneud ag ansawdd a diogelwch ei gwasanaethau.
Mae angen i'r Ymddiriedolaeth hefyd chwarae ei rhan yn y gwelliannau sy'n ofynnol o ran adrodd digwyddiadau difrifol ar draws ffiniau sefydliadol.