Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Sut roedd cyrff y GIG yn cefnogi lles staff yn ystod pandemig COVID-19
Mae staff y GIG wedi dangos gwydnwch ac ymroddiad aruthrol drwy gydol y pandemig, er eu bod yn wynebu straen enfawr i'w hiechyd meddwl a chorfforol.
Mae ein hadroddiad yn edrych ar sut mae cyrff y GIG wedi cefnogi lles staff yn ystod y pandemig, gan ganolbwyntio'n benodol ar y trefniadau y maent wedi'u rhoi ar waith i ddiogelu staff sydd mewn mwy o berygl o COVID-19.
Yr adroddiad hwn yw'r ail o ddau gyhoeddiad sy'n tynnu sylw at themâu sy'n gysylltiedig â COVID-19 o'n gwaith Asesu Strwythuredig yng nghyffau'r GIG, gan nodi cyfleoedd yn y dyfodol a rhannu dysgu. Yr adroddiad cyntaf – Ei wneud yn wahanol, gwneud pethau'n iawn? - yn disgrifio sut y mae cyrff y GIG yn diwygio eu trefniadau i'w galluogi i lywodraethu mewn modd darbodus, ystwyth a thrylwyr yn ystod y pandemig.
Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd lles staff.
Mae cyrff y GIG wedi blaenoriaethu lles staff yn ystod y pandemig, ond bellach mae angen iddynt sicrhau bod y cymorth yn parhau ac yn hawdd ei gyrraedd.
Roedd rhai o'r camau a weithredwyd gan gyrff y GIG i wella lles staff yn cynnwys:
Canfu ein hadolygiad hefyd, ochr yn ochr â mentrau diogelu eraill ar gyfer staff sydd mewn mwy o berygl o COVID-19, fod pob corff wedi cyflwyno a hyrwyddo'r defnydd o Offeryn Asesu Risg y Gweithlu COVID-19 Cymru Gyfan. Fodd bynnag, roedd cyfraddau cwblhau ar draws cyrff yn amrywio.
Mae ein hadolygiad hefyd yn edrych ar sut mae gan gyrff y GIG gyfle yn awr i ailgynllunio eu hymagwedd at les staff. Mae rhestr wirio ar gyfer aelodau Bwrdd y GIG yn cyd-fynd â'n hadroddiad sy'n nodi rhai o'r cwestiynau y dylent fod yn eu gofyn i sicrhau bod gan eu cyrff iechyd drefniadau da ar waith i gefnogi lles staff.