Mae gofal heb ei drefnu yn cwmpasu unrhyw ofal heb ei gynllunio, gofal brys a gofal argyfwng a ddarperir gan wasanaethau gofal iechyd. Gall gwmpasu amrywiaeth o gyflyrau ond yn ei hanfod mae'n cyfeirio at ofal y mae angen ei ddarparu'n gyflym, neu mewn rhai achosion ar unwaith.
Fel rhan o lansio'r gwaith hwnnw, rydym wedi cyhoeddi offeryn data a blog cysylltiedig. Mae'r offeryn yn casglu data o bob rhan o'r system gofal heb ei drefnu yng Nghymru ac yn rhoi cipolwg ar sut mae'r system yn ymdopi.
Beth wnaethom ddod o hyd iddo?
Mae'r data yn ein hofferyn newydd yn cadarnhau system gofal heb ei drefnu o dan bwysau gwirioneddol, gyda chleifion yn aros yn hir i dderbyn ambiwlans neu gael eu trin mewn adran damweiniau ac achosion brys a chyfraddau absenoldeb staff uchel.
Ym mis Chwefror 2022, roedd rhai o'r pwyntiau sy'n peri'r pryder mwyaf yn cynnwys:
- Gwelwyd 58% o'r bobl a oedd yn mynd i adran damweiniau ac achosion brys o fewn pedair awr. Gwelwyd 75% o gleifion o fewn wyth awr gydag 84% yn cael eu gweld o fewn 12 awr.
- anfonwyd ambiwlans o fewn wyth munud yn sgil ychydig dros un o bob dau (55%) alwad coch
- Ymatebwyd i 95% o alwadau 'ambr 1' o fewn pump awr ac o ran galwadau 'ambr 2' o fewn 12 awr, gyda 469 o bobl ar draws y ddau gategori yn aros dros 12 awr am ymateb.
- collodd y gwasanaeth ambiwlans 23,214 awr i oedi wrth drosglwyddo cleifion, y nifer uchaf a gofnodwyd hyd yma. Mae hynny'n cyfateb i gyfartaledd o 827 awr y dydd.