Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae Ffordd Gwynedd yn ymwreiddio’n dda ac yn sbarduno newid diwylliannol, fodd bynnag, mae yna rai rhwystrau a chamsyniadau cyffredin yn bodoli sy’n arafu cynnydd Ffordd Gwynedd.
Mae’n amlwg bod Ffordd Gwynedd wedi cael effaith fawr ar y ffordd y mae Cyngor Gwynedd yn gweithio ac yn meddwl. Mae’r Cyngor wedi trawsnewid elfennau o’r ffordd y mae’n gweithio drwy brosiectau newid a gefnogir yn gorfforaethol a rhai a sbardunwyd gan wasanaethau, yn ogystal â rhaglen hyfforddi sylweddol ar gyfer uwch-swyddogion. Fodd bynnag, ceir rhai camsyniadau cyffredin a rhai rhwystrau sy’n llesteirio cynnydd pellach. Mae’r materion hyn yn cyfyngu ar y ffordd y mae Ffordd Gwynedd yn ymwreiddio ac yn dod yn rhan o’r ffordd reddfol o weithio.