Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
Cyngor Sir Ddinbych – Defnyddio gwybodaeth am berfformiad: safbwynt defnyddwyr gwasanaethau a chanlyniadau
22 Ionawr 2024
Aethom ati i ateb y cwestiwn ‘A yw data perfformiad y Cyngor yn galluogi uwch arweinwyr i ddeall safbwynt defnyddwyr gwasanaethau a chanlyniadau ei weithgareddau i reoli ei berfformiad yn effeithiol?’
At ei gilydd, canfuom y darperir rhywfaint o wybodaeth am berfformiad i uwch arweinwyr y Cyngor i’w galluogi i ddeall canlyniadau eu gweithgareddau a safbwynt defnyddwyr gwasanaeth, ond mae’r wybodaeth am safbwynt defnyddwyr gwasanaeth yn gyfyngedig ar gyfer rhai o amcanion newydd y Cyngor.