Fel rhan o'n gwaith Sicrwydd a Risg yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, buom yn edrych ar drefniadau'r Cyngor i ddatblygu a chyflawni ei Gynllun Datgarboneiddio.
Ar y cyfan, gwelsom fod y Cyngor yn dangos ymrwymiad sefydliadol cryf i leihau carbon ac mae ganddo gynllun gweithredu cyhoeddedig, ond nid yw'r cynllun hwn wedi'i gostio ac nid yw'n nodi'r cyllid sydd ei angen i gyflawni'r holl weithgarwch o fewn y cynllun.