Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Yr oedd rhai cynghorau mewn sefyllfa well na’i gilydd i ymdrin ag effaith ariannol sylweddol y pandemig
Yn erbyn cefnlen o bwysau o ran cyllid a oedd eisoes yn bodoli, mae costau ariannol y pandemig yn ddigynsail yn y cyfnod modern.
Mae cyllid llywodraeth leol yng Nghymru wedi bod dan bwysau sylweddol am dros ddegawd, yn dilyn yr argyfwng ariannol yn 2008-09 a ysgogodd ddirwasgiad byd-eang difrifol.
Er bod effaith COVID-19 wedi cael ei lliniaru gan gymorth ariannol Llywodraeth Cymru hyd yma, mae cynaliadwyedd y sector yn y dyfodol yn her barhaus.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod bron i £500 miliwn o arian ychwanegol ar gael i gynghorau drwy'r gronfa caledi llywodraeth leol yn ogystal â sicrhau bod rhywfaint o arian arall ar gael gan gynnwys, er enghraifft, o ran cyllid ychwanegol i athrawon ar gyfer cymorth dal i fyny o addysg a deunyddiau glanhau i ysgolion. Mae hyn wedi lliniaru costau ychwanegol a cholledion incwm cynghorau lleol hyd yma, ond gan ddibynnu ar gwrs y pandemig yn y dyfodol, efallai y bydd diffyg sylweddol o ran cyllid i awdurdodau lleol o hyd yn ystod 2020-21.
Y meysydd mwyaf o bwysau cost cynyddol ar draws Llywodraeth Leol hyd yma yw gwasanaethau cymdeithasol ac addysg.
Mae cynghorau’n cael incwm o ystod o wasanaethau gan gynnwys cyfleusterau hamdden, parcio ceir, prydau mewn ysgolion a chludiant i ysgolion, ond amcangyfrifir bod y colledion mwyaf o ran incwm yn digwydd mewn gwasanaethau hamdden a diwylliannol.
Mae hefyd yn glir bod effaith ariannol y pandemig yn debygol o barhau trwy gydol 2020-21 ac i mewn i flynyddoedd yn y dyfodol.
Dros 2020-21, yn gyson â’n hymrwymiad i ategu ymateb cyrff cyhoeddus i’r pandemig, byddwn yn gweithio gyda chynghorau i gael sicrwydd eu bod yn sefydlu trefniadau priodol i sicrhau cynaliadwyedd ariannol.
Byddwn yn casglu a rhannu gwersi ac arfer mewn amser real ar draws y sector cyhoeddus.
Gallwch weld rhywfaint o'n gwaith COVID-19 presennol ar ein gwefan.