Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae ein hadroddiad yn ystyried a yw gwasanaethau brys yng Nghymru yn cydweithio'n agosach i wneud gwell defnydd o adnoddau.
Mae ein hadroddiad yn awgrymu bod cydweithio 'golau glas' y gwasanaeth brys yn tyfu'n araf ond mae angen newid sylweddol mewn gweithgarwch er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf posibl a gwneud y defnydd gorau o adnoddau.
Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn cydweithio'n agos i ddarparu gwell gwasanaeth i'r cyhoedd ers blynyddoedd lawer, ac fe wnaethant gamu i fyny yn ystod y pandemig i helpu pobl Cymru. Fodd bynnag, mae Gweinidogion wedi bod yn glir eu bod am weld cydweithio rhwng y gwasanaethau brys yn mynd ymhellach ac yn gyflymach.
Cyd-grŵp y Gwasanaethau Brys Mae'r Grŵp yn dwyn ynghyd uwch arweinwyr o wasanaethau 'golau glas' ac mae'n arwain yr agenda gydweithredu. Sefydlasant Fwrdd Cydweithredu Strategol i nodi a darparu cyfleoedd cydweithio yn y dyfodol, gan roi arwydd clir bod angen newid sylweddol. Mae cynlluniau ar gyfer cydweithredu yn datblygu ond mae rhai o'r rhain yn gyfyngedig o ran cwmpas ac nid ydynt yn cael eu cefnogi gan drefniadau rheoli prosiect cyson.
O enghreifftiau a nodwyd yn ein hadroddiad o Ddyffryn Tafwys, Dwyrain Lloegr a'r Alban, mae'n ymddangos bod cydweithredu'n canolbwyntio'n bennaf, wedi'i flaenoriaethu'n lleol nid yn genedlaethol ac yn aml mae'n ymateb tactegol i fynd i'r afael â phroblem neu amgylchiadau.
Gwnaethom restru'r ffactorau llwyddiant allweddol canlynol i helpu'r gwasanaethau brys i wneud newidiadau i wella cydweithredu.
Rydym wedi cynhyrchu'r offeryn data hwn i gefnogi ein hadroddiad ar Gydweithio rhwng y Gwasanaethau Brys yng Nghymru. Mae adroddiad rchwilio Cymru i'w weld ar ein