Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau gwaith asesu strwythuredig 2022 yr Archwilydd Cyffredinol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (y Bwrdd Iechyd).
Mae ein gwaith asesu strwythuredig wedi ei gynllunio i helpu i gyflawni gofyniad statudol yr Archwilydd Cyffredinol i fod yn fodlon bod cyrff y GIG wedi gwneud trefniadau priodol i sicrhau eu bod yn defnyddio adnoddau yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol o dan adran 61 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
Yn gyffredinol, canfuom fod y Bwrdd Iechyd yn parhau i wynebu heriau a risgiau sylweddol, yn enwedig mewn cysylltiad â rhai agweddau ar ansawdd gwasanaethau, perfformiad, cyllid, digidol ac ystadau.