Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Trwy waith mater o drefn a wnaed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, datgelwyd pryderon cynyddol ynghylch cydlyniant y bwrdd a’r cysylltiadau gweithio ar lefel uwch. Yn sgil graddau a natur y pryderon hyn gwnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal adolygiad brys gyda phwyslais o effeithiolrwydd cyfunol y bwrdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

    Yr hyn a ganfuwyd gennym

    Canfu adroddiad er budd y cyhoedd yr Archwilydd Cyffredinol bod cysylltiadau gweithio wedi chwalu o fewn y bwrdd ym Mwrdd iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd yn amharu yn sylfaenol ar ei allu i fynd i’r afael â nifer o heriau y mae’r sefydliad yn eu hwynebu.

    Canfu’r adroddiad hefyd, heb ryw fath o ymyrraeth i sefydlu Tîm Gweithredol a bwrdd ehangach mwy unedig, bod y sefyllfa bresennol yn annhebygol o gael ei datrys.

    Nododd ein hadroddiad hefyd gamau gweithredu y mae angen eu cymryd ar unwaith i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn ein hadolygiad.

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Angen camau brys i fynd i’r afael â chamweithrediad o fewn y bwrdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Gweld mwy
CAPTCHA