Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Ffocws wedi bod ar ystyried a yw cyrff cyhoeddus yn gwybod digon am ddysgwyr ag ADY, gan gynnwys y galw yn awr ac yn y dyfodol.
Mae’r adroddiad hwn yn ymwneud â’r system sy’n cefnogi pobl ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru.
Fe wnaeth Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 gyflwyno system newydd i helpu dysgwyr ag ADY. Y nod oedd creu system sy’n fwy integredig, yn fwy cydweithredol ac yn canolbwyntio’n fwy ar yr unigolyn.
Fe wnaethom ystyried a yw cyrff cyhoeddus yn deall y galw, capasiti a sgiliau’r gweithlu, costau a deilliannau lle mae ADY yn y cwestiwn. Fe wnaethom ganolbwyntio’n bennaf ar Lywodraeth Cymru a chynghorau, a’u cylch gwaith mewn perthynas ag ADY mewn ysgolion.
Gall plant a phobl ifanc ag ADY fod ag ystod eang o anghenion amrywiol. Beth bynnag fo’u hanghenion, dylai’r system ADY helpu i oresgyn rhwystrau fel bod dysgwyr yn gallu gwireddu eu llawn botensial.
Cyn y system newydd, nid oedd gwarchodaeth statudol mewn perthynas â’r cymorth i ddysgwyr nad ydynt eto mewn addysg. Fe wnaeth y Ddeddf estyn darpariaeth i ddysgwyr 0-25 oed. Ac fe ddisodlodd ddwy system ar wahân, y naill yn helpu dysgwyr hyd at 16 oed ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) a’r llall ar gyfer dysgwyr ôl-16 ag anawsterau dysgu neu anableddau. Bu’r hen system a’r system newydd yn rhedeg ochr yn ochr â’i gilydd trwy gyfnod pontio graddol rhwng mis Medi 2021 a mis Awst 2025.
Un o’r newidiadau allweddol fu’r Cynllun Datblygu Unigol (CDU) statudol newydd. Fe wnaeth y CDU ddisodli cymorth AAA anstatudol – gweithredu gan yr ysgol, gweithredu gan yr ysgol a mwy – a datganiadau statudol o AAA. Yn flaenorol, roedd datganiadau’n cael eu cadw ar gyfer grŵp cymharol fach â’r anghenion mwyaf. Ond mae’r system newydd yn rhoi CDU i bob dysgwr ag ADY.
Wrth gyflwyno’r Ddeddf, dywedodd Llywodraeth cymru fod y system flaenorol ‘yn gymhleth, yn ddryslyd ac yn wrthwynebol’. Fodd bynnag, mae nifer o adolygiadau wedi canfod bod heriau’n dal i fodoli yn y system newydd. Rydym yn cyfeirio at dystiolaeth o amryw ffynonellau eraill yn yr adroddiad hwn.
Canfuom fod y system dan straen ac yn wynebu heriau sy’n bygwth ei chynaliadwyedd. Nid oes gan gyrff cyhoeddus ddarlun cyflawn o’r galw, costau a deilliannau felly nid oes ganddynt ddigon o wybodaeth i gynllunio a chyllidebu’n effeithiol, ac i’w defnyddio i asesu gwerth am arian. Yn y pen draw, mae gennym ni bryderon ynghylch perfformiad y system ar hyn o bryd i gynorthwyo dysgwyr i wireddu eu llawn botensial.
Fe ffurfiom ni’r farn hon am y rhesymau canlynol:
Mae ein hargymhellion yn canolbwyntio ar wella data am ddysgwyr ag ADY a’r gweithlu, gwneud cost cymorth i ddysgwyr yn fwy tryloyw, a chasglu data ar ddeilliannau. Ein nod yw cefnogi cynllunio hirdymor gwell a sicrhau bod cymorth i ddysgwyr ag ADY yn cael yr effaith a ddymunir.
Mae ein hargymhellion yn canolbwyntio ar Lywodraeth Cymru a’i rôl fel galluogwr newid ar lefel genedlaethol. Serch hynny, bydd angen cynnwys ystod eang o gyrff cyhoeddus er mwyn i’n hargymhellion gael eu rhoi ar waith yn llwyddiannus. Mae iddynt berthnasedd ehangach, felly. Bydd cynigion y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori arnynt yn ddiweddar yn effeithio ar gyrff eraill hefyd.