Mae'r Adroddiad Interim hwn yn disgrifio'r cynnydd a wnaed dros y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2022 tuag at gyflawni ein rhaglenni gwaith arfaethedig a'n meysydd ffocws cysylltiedig, ac ar gyflawni ein targedau dangosydd perfformiad allweddol.
Cynnydd yr ydym wedi'i wneud ers mis Ebrill
Mae gwaith yn mynd rhagddo i gwblhau ein gwaith ar archwilio cyfrifon o ran cyfrifon 2021-22 ac rydym wedi parhau i gadw hyblygrwydd yn ein rhaglen waith genedlaethol er mwyn ymateb i amgylchiadau a blaenoriaethau sy'n datblygu.
Rydym wedi parhau i addasu sut rydym yn gweithio, gan ategu staff i weithio'n hyblyg er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon. Ar ôl cael gwared ar yr holl gyfyngiadau COVID-19 yng Nghymru, rydym wedi mabwysiadu model gweithio hybrid, gyda thimau'n treialu gweithio mewn mannau cydweithredol, mewn lleoliadau gweithgareddau yn ein swyddfeydd rhanbarthol, mewn hybiau a chartref.