Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Gwasanaeth Digartrefedd Cyngor Sir y Fflint

23 Medi 2024
  • Arfer da o archwiliad ar Wasanaeth Digartrefedd Cyngor Sir y Fflint

    Yn haf 2023, fe ges i gyfle i helpu ar archwiliad. Roedd o’n hwyl. Go wir. Fu i mi ddysgu pethau, ges i fod yn broffesiynol fusneslyd a fel ceiriosen ar ben y cyfan (ar ddiwedd y diwrnod gwaith a doedd dim angen i mi ruthro adref) fe ges i fynd i weld Castell y Fflint hefyd, achos ro'n i yn y Fflint a dwi'n hoffi cestyll.

    Mae'n gastell taclus iawn, y darnau sydd wedi goroesi beth bynnag. Wedi’i ddechrau ym 1277 yn ystod goresgyniad Edward 1af, dyma ran gyntaf yr hyn a ddaeth yn gylch haearn ar hyd yr arfordir yr holl ffordd i Aberystwyth a helpodd i gadw hen deyrnas Gwynedd yn dawel. Mae'n siâp sgwâr arferol ond fod yna dŵr ar wahân fel gorthwr, sy'n unigryw yn y DU, ond sy'n adlewyrchu rhywfaint o arfer adeiladu cestyll yn Ffrainc y 13eg Ganrif. Mae hynny'n gwneud synnwyr o ystyried bod Brenin Lloegr yn rheoli rhannau o'r hyn sydd bellach yn Ffrainc hyd at gyfnod y Tuduriaid. Mae'r beili mawr allanol a godwyd yn drawiadol, ac mae'n debyg i'r carchar lleol sefyll yno nes iddo gael ei ddymchwel.

    Canfyddiadau'r Archwiliad

    Yn dilyn pasio Deddf Tai (Cymru) yn 2014, mae pob cyngor yng Nghymru wedi datblygu strategaeth i atal digartrefedd yn ogystal â chefnogi pobl sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref a darparu llety addas. Yn 2022, cymeradwyodd a chyhoeddodd Cyngor Sir y Fflint ei Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai ei hun hefyd.

    Y broblem fawr y mae Cyngor Sir y Fflint yn ei hwynebu yw bod gwasanaethau digartrefedd wedi mynd yn llawer mwy costus ers y pandemig. Yn 2022-23, roedd angen i’r cyngor wario £1.5 miliwn ar lety gwely a brecwast a gwesty, ond ar gyfer 2023-24 y rhagolygon oedd £4.9 miliwn.

    Agwedd arall ar y broblem yw nad oes ganddyn nhw ddigon o'r math cywir o unedau tai. Maent yn gwneud eu gorau i gywiro hyn, ond nid yw'n rhywbeth sy'n digwydd dros nos.

    Canfu'r archwiliad fod Cyngor Sir y Fflint yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel, ond nad yw’n gynaliadwy o fewn y cyllid presennol.

    Os hoffech chi ddarllen yr holl fanylion, gellir dod o hyd i'r adroddiad yma ar ein gwefan.

    Arfer Da

    Gan fy mod yn gweithio i'r Gyfnewidfa Arfer Da, ni allwn helpu ond sylwi ar rai darnau o arfer da a welais yn ystod y gwaith.

    Mae'r rhain yn bethau a welais pan oeddwn i’n gwneud y gwaith archwilio – ond os gwyddoch chi am unrhyw arfer tebyg neu arferion fyddai’n medru bod o gymorth (neu hyd yn oed rhywbeth hollol wahanol, ond yn yr un maes neu rywbeth sy’n bosib ei drosglwyddo) y dylai mwy o bobl fod yn gwybod amdano, yna cysylltwch â ni drwy Arfer.da@archwilio.cymru.

    Rydym yn weision cyhoeddus yn y pen draw, felly mae rhannu'n helpu pawb. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn datrys problem rhywun oherwydd eich bod wedi rhannu eich gwaith neu enghraifft o waith rhywun arall.

    Cronfa Ddata

    Mae pobl sy'n gweithio ym maes TG yn ofalus iawn o ran pwy sydd â mynediad at ba systemau ac ati, a hynny’n briodol. Y defnyddwyr fel arfer yw'r bygythiad mwyaf i ddiogelwch TG unrhyw sefydliad, ac mae'r rhyngrwyd yn llawn o'r straeon arswyd sy’n rhoi hunllefau i weithwyr TG proffesiynol. Mae pobl yn rhyfeddol o anrhagweladwy, oni bai mai diogelwch data sefydliad yw eich cyfrifoldeb chi.

    Dyna pam ges i fy synnu pan glywais fod gan Gyngor Sir y Fflint nid yn unig system a oedd yn casglu data tai a digartrefedd, ond bod gan bobl o'r tu allan i Gyngor Sir y Fflint fynediad i'r system hefyd!

    Mae'r system yn gallu rhoi darlun sydd yn agos i fod yn gywir i’r funud o ddigartrefedd yn Sir y Fflint, ac mae'n caniatáu i Gyngor Sir y Fflint reoli'r sefyllfa yn unol â hynny.

    Mae darparu mynediad at ddata perthnasol i bartneriaid hefyd yn golygu eu bod yn gweithio gyda gwell gwybodaeth ac yn gallu addasu'n haws i'r gofynion arnynt.

    O ran data, mae Cyngor Sir y Fflint hefyd wedi comisiynu mwy nag un astudiaeth i geisio deall yn iawn beth sy'n digwydd yn y sector tai yn Sir y Fflint. Maen nhw'n ceisio deall y dirwedd y maen nhw'n gweithredu arni, ac mae'n braf iawn gweld hynny.

    Pwysigrwydd Perthynas

    Ffactor pwysig y sylwais arno oedd bod partneriaid Gwasanaeth Digartrefedd Cyngor Sir y Fflint i gyd wedi dweud bod ganddyn nhw berthynas aeddfed â'r cyngor.

    Roedden nhw'n teimlo y gallen nhw gael trafodaeth onest gyda'r cyngor. Roedden nhw hefyd yn teimlo na fyddai anghytuno, neu dynnu sylw at y ffaith nad oedd rhywbeth yn gweithio yn effeithio ar eu siawns o adnewyddu eu cyllid na'r berthynas waith gyda Chyngor Sir y Fflint.

    Mae ychydig yn ddigalon bod cael perthynas agored a gonest yn ddarn o arfer da. Ar y llaw arall, mae unrhyw un sydd wedi sylwi ar ddeinameg pŵer hefyd yn gwybod nad yw mor syml â hynny, ac y gall anghytundeb arwain at fannau anghyfforddus. Hyd yn oed os nad dyna sut yr hoffai unrhyw un iddi i fod, neu'n meddwl ei fod.

    Aelodau Seneddol ac Aelodau o’r Senedd

    Perthynas arall y mae angen ei rheoli'n weithredol yw'r un ag aelodau etholedig. Cynghorwyr etholedig Cyngor Sir y Fflint, ond hefyd Aelodau o'r Senedd ac Aelodau Seneddol sy'n cynrychioli Sir y Fflint.

    Mae'r berthynas gyda'r cynghorwyr yn haws i'w rheoli, oherwydd eu bod yn rhan o'r un sefydliad ac oherwydd bod y corff y maen nhw’n cael eu hethol iddo wedi cadarnhau'r polisïau y mae'r Gwasanaeth Digartrefedd yn eu defnyddio i helpu a blaenoriaethu defnyddwyr gwasanaethau.

    Daw'r broblem pan fydd defnyddwyr gwasanaethau, sydd wedi blino aros neu'n anfodlon â'r ffordd y mae'r polisi wedi eu trin, yn cysylltu â'u Haelod o’r Senedd neu Aelod Seneddol lleol. Yna mae eu swyddfa yn cysylltu â gwasanaeth Digartrefedd Cyngor Sir y Fflint ac yn ychwanegu at y galw ar y gwasanaeth.

    Yr ateb sy'n ymddangos fel pe bai'n gweithio i wasanaeth Digartrefedd Cyngor Sir y Fflint yw gweithio ar y berthynas â'r Aelod o’r Senedd ac Aelod Seneddol perthnasol a'u swyddfeydd. Mae hyn wedi gweithio i Martin, pennaeth y gwasanaeth mewn swyddi blaenorol: Gwahodd staff cymorth yr aelodau i mewn a rhannu gwybodaeth am sut mae'r gwasanaeth Digartrefedd yn gweithio, a'r gofynion sy'n ei wynebu sydd yn cystadlu gyda’u gilydd am sylw. Wedi derbyn y wybodaeth, daeth llai o ofynion o gyfeiriad swyddfa'r aelodau oherwydd bod y cyngor yr oeddent yn gallu ei roi i etholwyr yn well ac yn cael ei lywio’n fwy gan realiti'r sefyllfa.

    Shelter Cymru

    Mae Shelter Cymru yn darparu gwasanaeth gwybodaeth ac eiriolaeth i bobl sy'n cael trafferth gyda thai.

    Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymgorffori y swyddog Shelter Cymru sy'n gyfrifol am yr ardal yn y gwasanaeth digartrefedd ers 7 mlynedd, ac mae wedi talu ar ei ganfed. Mae dod â'r swyddog o Shelter i mewn i’r gwasanaeth yn golygu y gellir trafod a datrys problemau yn gyflym ac yn anffurfiol ac osgoi cyrraedd y mecanwaith  anghydfod ffurfiol.

    Mae hyn yn golygu bod pobl sydd angen cymorth yn cael y cymorth hwnnw mor gyflym ac effeithlon â phosibl.

    Clo

    Roedd yr arferion da a welais tra’n gweithio ar yr archwiliad hwn yn ymwneud yn bennaf â sefydlu cyfathrebu da, meithrin ymddiriedaeth a pherthynas i nes cyrraedd man lle mae pobl a sefydliadau'n deall ei gilydd.

    Roedd gweithio ar yr archwiliad yn brofiad dysgu diddorol iawn. Fe ges i gyfle i sgwrsio â phobl sy'n angerddol am eu gwaith, sy'n gwneud eu gorau glas, ac sy'n cael eu cefnogi cystal ag y gellid ei ddisgwyl i wneud eu gwaith. Mae'n hyfryd. Ac rwy’n gwybod nad yw popeth, ac nid yw pob man fel ‘na.

    Rwyf hefyd yn dweud cystal ag y gellid ei ddisgwyl, oherwydd am y rhan fwyaf o'r amser ers 2007, bu'n rhaid i awdurdodau lleol wneud arbedion am ryw reswm neu'i gilydd, boed yn ddemograffig neu gynilo.

    Ac mae'n edrych yn debyg y bydd hynny'n parhau am y tro o leiaf.

     

    Am yr Awdur

    Mae Siôn Owen yn Swyddog Cyfnewid Gwybodaeth i'r Gyfnewidfa Arfer Da.