Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Cyfnewidfa Arfer Da: Prosiect Ymchwil Cynghorwyr a Gofal

11 Medi 2024
  • Os ydych yn gynghorydd gweithredol, yn gynghorydd craffu neu’n gynghorydd ward sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol i oedolion, yna byddwch yn gwybod ei fod yn faes arbennig o heriol o fusnes y cyngor. Felly, sut mae cynghorwyr yn llunio gwahanol agweddau ar ymarfer gofal cymdeithasol i oedolion a sut gallant wneud hynny mor effeithiol â phosibl?

    Ynglŷn â phrosiect ymchwil Cynghorwyr a Gofal

    Mae llawer o ymchwil ar sut y byddai modd cefnogi gofal cymdeithasol i oedolion yn fwy effeithiol, a llawer o ymchwil ar gynghorwyr yn fwy cyffredinol, ond nid oes llawer wedi bod yn benodol ar sut y gallai cynghorwyr wneud gwahaniaeth o ran gofal cymdeithasol i oedolion.

    Wedi'i ariannu gan Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal, roedd prosiect ymchwil Cynghorwyr a Gofal yn brosiect dwy flynedd a ddechreuodd ym mis Tachwedd 2021. Cyfunodd yr ymchwil adolygiad llenyddiaeth, cyfweliadau â rhanddeiliaid arbenigol ac astudiaethau achos i greu adnoddau a phecyn cymorth i gynghorwyr. Er bod y prosiect yn canolbwyntio ar Ofal Cymdeithasol i Oedolion yn Lloegr, efallai y bydd rhai cyfleoedd dysgu defnyddiol i ni yma yng Nghymru o ganfyddiadau'r prosiect. 

    Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yn Lloegr yn cael eu harwain gan gynghorwyr etholedig mewn ardaloedd lleol. Mae cynghorwyr yn cael eu hethol bob pedair blynedd ac yn gwneud penderfyniadau ar amrywiaeth o faterion lleol.

    Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar rôl cynghorwyr wrth lunio ymarfer gofal cymdeithasol i oedolion – sy'n golygu'r gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i bobl y mae angen gwasanaethau gofal cymdeithasol arnynt (neu a allai fod eu hangen arnynt yn fuan). Mae cynghorwyr yn penderfynu ar yr amrywiaeth o ddewisiadau cymorth sydd ar gael mewn ardal a faint o arian y dylai gael ei wario arnynt. Gall hyn ymwneud â helpu pobl cyn bod angen gwasanaethau ffurfiol y wladwriaeth arnynt, er enghraifft trwy gymorth anffurfiol, cymorth ataliol a gwasanaethau eraill fel tai. I'r rhai sydd angen cefnogaeth y wladwriaeth, mae gan gynghorwyr rôl wrth benderfynu pa fathau o wasanaethau gofal cymdeithasol y mae modd eu cynnig a sut y bydd ansawdd a diogelwch yn cael eu monitro.

    Nod y prosiect oedd darganfod mwy am sut mae cynghorwyr yn llunio gwahanol agweddau ar ymarfer gofal cymdeithasol i oedolion a sut y gallant wneud hynny mor effeithiol â phosibl. Gallwch ddarllen crynodeb manylach o'r prosiect ar wefan 21st Century Public Servant. 

    Canllawiau ‘sut i’

    Er mwyn helpu Cynghorwyr i ystyried sut y gallent wneud gwahaniaeth, mae'r prosiect ymchwil Cynghorwyr a Gofal wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau 'sut i' am ddim. 
    Mae'r canllawiau hyn, sydd ar gael fel fersiwn dwy funud ac fel adroddiad deg tudalen, yn cynnig fframwaith syml o bedair egwyddor i helpu Cynghorwyr i fyfyrio ar eu dull personol eu hunain, a'i ddatblygu. Wedi'i fwriadu fel adnodd ymarferol, mae'r canllawiau’n defnyddio ymchwil berthnasol, cyfweliadau ag arbenigwyr cenedlaethol ac ymchwil astudiaethau achos gyda chynghorau yng Ngogledd-orllewin Lloegr.

    Dyma’r canllawiau ar gyfer cynghorwyr gweithredol, cynghorwyr craffu a chynghorwyr ward, ynghyd â mwy am y prosiect Cynghorwyr a Gofal: 

    Mae lwyth o flogiau defnyddiol a llawn gwybodaeth hefyd wedi'u hysgrifennu ar wefan 21st Century Public Servant.