Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Sut mae Cyngor Celfyddydau Cymru a'r GIG yn cydweithio i wella llesiant.
Mae grym y celfyddydau i gefnogi iechyd a llesiant wedi ei gydnabod a’i dystiolaethu yn rhyngwladol.
Yma yng Nghymru, ers 2017, mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn y GIG yng Nghymru wedi cydweithio er mwyn hybu’r celfyddydau, iechyd a llesiant ar draws y wlad gyda’r bwriad o wella bywydau a lleihau’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal.
Trwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth a dorrodd dir newydd, sydd bellach yn ei seithfed blwyddyn, maent yn cydweithio gyda phartneriaid celfyddydau ac iechyd er mwyn hybu’r buddion all ddeillio o’r celfyddydau a mewnosod cynlluniau celfyddydau ac iechyd ar draws y GIG yng Nghymru.
Mae’r Memorandwm wedi rhoi hwb ar gyfer partneriaeth gynaliadwy a model yng Nghymru sydd wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol. Mae ymagwedd strategol y sectorau wedi ei gydnabod fel enghraifft o arfer da gan Sefydliad Baring pa fu iddynt gyhoeddi Creatively Minded and the NHS [dolen yn agor mewn tudalen wahanol] a bu i astudiaeth ryngwladol gan Lancet Public Health [agor mewn ffenest wahanol] ddatgan mai “y memorandwm hwn yw un o’r ymrwymiadau mwyaf pendant yr ydym wedi’i ganfod, o ran y dull croestoriadol a’r buddsoddiad a’r gweithredu penodol”.
Mae rhaglen cynyddu adnoddau celfyddydau ac iechyd wedi cyflwyno a datblygu rolau cydlynwyr celf ac iechyd ym mhob un o fyrddau iechyd Cymru, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Bu i werthusiad o’r rhaglen yma a gynhaliwyd yn 2022[agor mewn ffenest newydd] ganfod fod rolau celf ac iechyd o fewn y GIG yn cyfrannu at effeithiau cadarnhaol ar iechyd a llesiant corfforol a meddyliol cleifion a’r boblogaeth ehangach, ac ar draws yr ystod o swyddogaethau sy’n ymwneud ag iechyd – atal, lliniaru, trin a gwella.
Mae Cronfa Loteri y Celfyddydau, Iechyd a Lles sy’n cael ei gyflawni gan Gyngor y Celfyddydau yn cefnogi partneriaethau rhwng sefydliadau celfyddydol y wlad; iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector; arlunwyr ac ymarferwyr unigol; ac awdurdodau lleol er mwyn cynnal amrywiaeth o gynlluniau a rhaglenni sydd yn ymateb i heriau iechyd, gyda rhai esiamplau diweddar yn cynnwys cynllun canu ac anadlu er mwyn cefnogi pobl sydd yn gwella o gael COVID hir a chyflyrau eraill, yn ogystal a sesiynau barddoni ar gyfer pobl ifanc sydd yn byw â chlefyd siwgr.
Yn y cyfamser mae rhaglen tair blynedd Crefydd a Chrebwyll, wedi ei gefnogi gan Cyngor y Celfyddydau a Sefydliad Baring, wedi galluogi y 7 bwrdd iechyd yng Nghymru i ddatblygu prosiectau creadigol gydag artistiaid a sefydliadau celfyddydol sydd wedi ymateb i flaenoriaethau iechyd meddwl.
Mae gwaith celfyddydau ac iechyd Cymru yn arwain at fuddion i staff GIG a gofal cymdeithasol, yn ogystal â’u cleifion.
Er enghraifft, sefydlwyd gwefan ddwyieithog y Cwtsh Creadigol, a lansiwyd yn 2022 fel diolch gan sector celfyddydau Cymru i staff GIG a gofal cymdeithasol, gan gydnabod yr angen ei warchod eu llesiant hwy yn ogystal a llesiant eu cleifion.
Wedi eu datblygu mewn partneriaeth ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru, ‘roedd yn gartref i dros 70 adnodd llesiant creadigol; o jyglo a sesiynau dawns i farddoni a cherdded mewn natur, oll wedi eu creu er mwyn helpu staff iechyd a gofal prysur i ymlacio. Mae’r adnoddau yma bellach wedi eu hymgorffori mewn i raglen waith Hapus Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan eu rhannu i bawb. Gallwch gael mynediad at yr adnoddau ar unrhyw bryd trwy fynd i wefan Hapus.Wales.
Am fwy o wybodaeth am waith celfyddydau ac iechyd Cymru, ewch i wefan Cyngor y Celfyddydau.