Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Wyt ti’n fy ngweld?

20 Mehefin 2025
  • Mae Sara Leahy a Seth Newman wedi ysgrifennu am ein gwaith ar Anghenion Dysgu Ychwanegol wrth i ni nodi Wythnos Anabledd Dysgu 2025.

    • Wyt ti’n fy ngweld? yw thema' Wythnos Anabledd Dysgu eleni. Mae'n ddigwyddiad sydd am sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn cael eu gweld, eu clywed, eu cynnwys a'u gwerthfawrogi ym mhob agwedd o fywyd.

      Mae llawer o elusennau a chymunedau yn nodi Wythnos Anabledd Dysgu gan gynnwys, er enghraifft, Mencap. Mae Mencap Cymru  yn amcangyfrif bod 70,000 o bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.

      Dywed Mencap y gall bod angen cymorth ar bobl ag anabledd dysgu i ddatblygu sgiliau newydd, deall gwybodaeth, a rhyngweithio â phobl eraill. Gyda'r gefnogaeth gywir, gall pobl ag anabledd dysgu ffynnu.

      Y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol

      Un agwedd ar ddysgu sgiliau newydd i bobl ag anabledd dysgu yw'r ddarpariaeth a'r gefnogaeth o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysgol (Cymru) 2018.

      Mae'r Ddeddf yn nodi bod gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddynt anhawster dysgu neu anabledd (pa un a yw’r anhawster dysgu neu’r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol ai peidio) sy'n galw am ddarpariaeth dysgu ychwanegol.

      Ein gwaith ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

      Yn Archwilio Cymru rydym yn edrych ar a oes gan gyrff cyhoeddus ddealltwriaeth dda o berfformiad a chynaliadwyedd y system ADY?

      Bydd ein gwaith yn edrych ar ddealltwriaeth cyrff cyhoeddus o dueddiadau yn y galw am gymorth ADY. Byddwn hefyd yn ystyried i ba raddau maent yn deall y gost ac a yw'r dulliau presennol o gefnogi dysgwyr ag ADY, gan gynnwys disgyblion ag anableddau dysgu, yn perfformio'n dda ac yn gynaliadwy.

      Ein ffocws yw rôl Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol, er y byddwn yn cyffwrdd â materion sy'n berthnasol i'r sector iechyd ac addysg bellach.  

      Bydd y gwaith yn anelu at gefnogi gwelliant yn y ddarpariaeth ADY trwy dynnu sylw at faterion a gwneud argymhellion.

      Beth nesaf?

      Rydym wrthi’n casglu tystiolaeth, gan gynnwys clywed gan gyrff cyhoeddus, sefydliadau sy'n cynrychioli dysgwyr, a rhanddeiliaid eraill.

      Wyt ti’n fy ngweld?

      Byddwn yn cadw hyn mewn cof wrth i ni symud trwy'r archwiliad. Mae cael gwybod sut mae'r system ADY yng Nghymru yn teimlo ac yn edrych o safbwynt pobl sy'n derbyn gwasanaethau a chymorth yn rhan hanfodol o'r darlun. Dyna pam rydym yn cynnwys arolygon, edrych ar themâu o waith sefydliadau allweddol, a chyfweliadau â darparwyr a chyrff cynrychioliadol fel rhan o'n dulliau.

      Ein hadroddiad

      Ar hyn o bryd rydym yn bwriadu cyhoeddi ein canfyddiadau tua mis Chwefror 2026.

      Cysylltu â ni

      Ni allwn ymchwilio na thrin ag achosion unigol. Ond os oes gennych farn am y system ADY yng Nghymru neu brofiadau ohoni, mae croeso i chi gysylltu â ni ar ady@archwilio.cymru

       

      Ynglŷn â'r awduron

      Mae Sara Leahy a Seth Newman yn archwilwyr yn y tîm astudiaethau cenedlaethol yn Archwilio Cymru. Mae Sara a Seth yn rhan o'r tîm sy'n gweithio ar yr archwiliad hwn o Anghenion Dysgu Ychwanegol.