Grym geiriau

05 Tachwedd 2020
  • Claire Flood-Page sy’n dweud mwy wrthym ni am ein hadroddiad Siaradwch fy Iaith. Rydym yn ystyried canlyniadau peidio â sicrhau bod gwasanaethau ar gael i bawb.

    Mewn achos llys diweddar, bu’n rhaid i Ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr dalu miliynau o bunnoedd o iawndal [bydd yn agor mewn ffenest newydd] wedi i fabi gael niwed difrifol i’w ymennydd[1].

    Dyfarnodd yr Uchel Lys bod Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Prifysgol Barking, Havering a Redbridge yn atebol am anafiadau Nilujan Rajatheepan oherwydd i fydwragedd fethu ag esbonio sut i’w fwydo’n iawn mewn modd y gallai ei fam ei ddeall.

    Roedd rhieni Nilujan yn ffoaduriaid Tamil o Sri Lanka. Cyrhaeddodd ei fam 21 mlwydd oed y DU yn 2008, ac nid oedd yn siarad ond ychydig eiriau o Saesneg. Ganwyd y babi ar 16 Gorffennaf 2009 ac fe’i ryddhawyd dau ddiwrnod wedyn. Pan adawodd hi’r ysbyty am 10pm gyda’i gŵr a ffrind a oedd yn siarad mwy o Saesneg, roedd y babi yn crio’n barhaus. Pan wnaethant ofyn am gymorth, dywedodd y bydwragedd wrthynt fod babanod newydd yn crio llawer. Rhoddodd ei fam dystiolaeth gan ddweud ei bod hi wedi ceisio codi ei phryderon ond na allai wneud hynny oherwydd ei diffyg Saesneg. Pan gyrhaeddodd y fydwraig gymunedol y diwrnod nesaf, roedd y babi yn welw, yn gysglyd a dywedwyd ei fod wedi dioddef trawiadau. Roedd yn dioddef o hypogylcaemia ac roedd wedi cael niwed catastroffig i’r ymennydd. Cytunodd arbenigwyr fod hyn o ganlyniad i beidio â chael digon o fwyd.

    Dywedodd y Barnwr na wnaeth unrhyw un esbonio wrth fam Nilujan, pa mor bwysig oedd bwydo na’r hyn i’w wneud pe na fyddai’n bwydo. Roedd y bydwragedd o’r farn eu bod wedi goresgyn y rhwystr ieithyddol drwy ddefnyddio ystumiau ac arwyddion. Ond dywedodd y Barnwr na ddylai’r bydwragedd fod wedi cynnal y cyfweliad rhyddhau ffurfiol heb fod tad Nilujan, o leiaf, yn bresennol (fe allai ef fod wedi cyfieithu ar y pryd ar gyfer ei wraig). Gorau oll pe byddent wedi sicrhau bod cyfieithydd ar y pryd yn bresennol neu wedi ceisio cymorth llinell iaith yr ysbyty. Pe byddai’r rhwystrau ieithyddol wedi eu goresgyn, daeth y barnwr i’r casgliad y byddai’r fam a’r babi wedi’u cadw yn yr ysbyty dros nos. Byddai Nilujan wedi osgoi’r anaf. Ym mis Ebrill 2018, ymddiheurodd yr Ymddiriedolaeth i’r teulu a dywedodd ei bod wedi gwella ers 2009.

    Mae’r achos hwn yn amlygu’r canlyniadau trasig a all ddigwydd o ganlyniad i rwystrau ieithyddol. Mae hefyd yn atgyfnerthu dyletswyddau cyrff iechyd i bob claf er gwaethaf eu rhwystrau ieithyddol.

    Sut y gall cyrff cyhoeddus osgoi hyn?

    Gallwn ni i gyd gytuno na ddylai sefyllfaoedd fel hyn ddigwydd.

    Mae ein hadroddiad Siaradwch fy iaith: Goresgyn rhwystrau iaith a chyfathrebu mewn gwasanaethau cyhoeddus [bydd yn agor mewn ffenest newydd] yn ystyried sut y mae cyrff cyhoeddus yn cefnogi pobl i ddefnyddio gwasanaethau os nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg neu Saesneg. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys pobl fyddar sy’n defnyddio iaith arwyddion. Gwnaethom edrych yn benodol ar wasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.

    Mae’r adroddiad yn nodi rhai argymhellion i wella gwasanaethau. Gwnaethom greu rhestr wirio a allai fod o gymorth i gyrff cyhoeddus [bydd yn agor mewn ffenest newydd]. Po fwyaf y mae cyrff cyhoeddus yn ei wneud i ddeall ac ymateb i anghenion ieithyddol eu cymunedau, y lleiaf tebygol yw hi y bydd sefyllfa fel un Nilujan yn digwydd eto.

    Ynglŷn â’r awdur

    Mae Claire Flood-Page yn archwilydd perfformiad. Dysgodd o brofiad am rwystrau iaith pan oedd yn byw mewn ysbyty mewn ardal wledig o KwaZulu-Natal yn Ne Affrica yn y 1990au. Roedd hi’n aml yn ei chael hi’n anodd cyfathrebu oherwydd ei diffyg gafael ar yr iaith Zulu.

    [1] Rajatheepan v Barking, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Havering a Redbridge, Llys Apêl – Is-adran Mainc y Frenhines, Ebrill 13, 2018, [2018] EWHC 716 (QB)