Fy nhaith hyd yn hyn…

05 Tachwedd 2020
  • Yn rhan o’n hymgyrch recriwtio, rydym wedi gofyn i rai o’n prentisiaid flogio am eu profiad o fod yn brentis yn Swyddfa Archwilio Cymru. Yma, mae Emma Thomas yn sôn am ei blwyddyn gyntaf.

    I gael rhagor o wybodaeth ac i ymgeisio, ewch i’n gwefan.

    Fy enw i yw Emma ac rwy’n Brentis Archwilio Ariannol yn fy mlwyddyn gyntaf yn Swyddfa Archwilio Cymru. Blwyddyn yn ôl roeddwn yn dod i ddiwedd fy interniaeth Marchnata mewn Cymdeithas Dai yng Nghaerffili. Pe byddech chi wedi dweud wrthyf bryd hynny y byddwn i wedi pasio tri arholiad mewn cymhwyster cyfrifyddu o fewn y flwyddyn nesaf, ni fyddwn i wedi’ch credu chi.

    Dechreuais fy ngradd mewn Addysg a’r llwybr yn dod i ben drwy wneud TAR a dod yn athrawes ysgol gynradd. Fodd bynnag, ar ôl treulio llawer o fy amser mewn lleoliadau ysgol amrywiol dros y blynyddoedd penderfynais nad oeddwn yn dymuno bod yn athrawes, ond roeddwn i’n dal i fod wrth fy modd ag addysg ac roeddwn i eisiau ystyried gyrfaoedd eraill a fyddai’n caniatáu i mi barhau i addysgu fy hun a lle byddai cyfle imi ddysgu pethau newydd.

    Ar ôl gorffen fy ngradd mewn Addysg, cefais interniaeth fel Cynorthwyydd Cyfathrebu mewn cymdeithas dai yng Nghaerffili, gan ddefnyddio fy sgiliau ysgrifennu academaidd a fy mwynhad o gwrdd â phobl newydd. Fodd bynnag, ar ôl i fy interniaeth ddod i ben sylweddolais nad dyna’r yrfa i mi. Yn ystod fy nghyfnod yn y cwmni penderfynais ymchwilio i yrfaoedd a sectorau eraill yn y busnes fel adnoddau dynol, datblygiad a chyllid. Yn ystod fy nghyfnod yn yr Adran Gyllid cefais fy nghyflwyno i’r hyn maen nhw’n ei wneud, y gwahanol feysydd cysylltiedig a chefais ddealltwriaeth o’r broses archwilio cwmni, a gwnaeth hyn fy ysgogi i roi cynnig ar yrfa yn y sector hwn. Dyna a arweiniodd at fy nghais i garfan 2018 Cynllun Prentisiaeth Swyddfa Archwilio Cymru.

    Mae’r Cynllun Prentisiaeth yn rhaglen tair blynedd, a byddwch yn datblygu o gymhwyster lefel 2 AAT hyd at lefel 4 AAT yn ystod y rhaglen gyda’r dewis ar ei diwedd i symud ymlaen i gynllun hyfforddeiaeth Swyddfa Archwilio Cymru. Penderfynais ddilyn y llwybr hwn yn hytrach na llwybr hyfforddeiaeth hirsefydledig Swyddfa Archwilio Cymru gan fy mod i’n dod o gefndir lle nad oedd gen i lawer o wybodaeth am y maes archwilio na chyfrifyddu, felly roeddwn i’n credu ei bod yn bwysig arbenigo ar yr elfennau sylfaenol a datblygu o’r fan honno.

    Yn bersonol, gallaf yn sicr argymell gwneud prentisiaeth. Mae wedi bod yn brofiad gwych hyd yn hyn ac mae wedi caniatáu i mi gael profiad ymarferol o archwilio awdurdodau lleol a byrddau GIG a chael mynd i goleg lleol am un diwrnod yr wythnos i astudio AAT. Cyfle rhagorol!

    Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn lle gwych i ddechrau eich gyrfa, mae’n amgylchedd gweithio croesawgar iawn – mae’n gyfforddus ac yn gyfeillgar. Mae eich datblygiad a’ch lles yn ystyriaethau pwysig iawn, er enghraifft roeddwn i a phrentisiaid eraill yn cael trafferth â fformiwlâu yn Microsoft Excel. Fe wnaethom roi gwybod am hyn ac o fewn y mis roedd cwrs hyfforddiant Excel dros ddau ddiwrnod wedi’i drefnu ar ein cyfer. Y brentisiaeth hon yw un o’r cyfleoedd gorau a mwyaf gwerthfawr o bell ffordd rwyf erioed wedi’u cael.

    Ynglŷn â’r awdur

    Blog Photo - Emma Thomas Fy enw i yw Emma Thomas ac rwy’n Brentis Archwilio Ariannol yn fy mlwyddyn gyntaf yn Swyddfa Archwilio Cymru.