Cyhoeddiad Iechyd a gofal cymdeithasol Gofal Heb ei Drefnu - Diweddariad ar Gynnydd (Crynodeb Gweit... Nod yr adroddiad hwn yw olrhain y cynnydd a wneir gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i fynd i’r afael â’r prif faterion a godwyd gennym ym mis Rhagfyr 2009. Rydym hefyd yn anelu at amlygu’r prif heriau sy’n parhau a’r cyfleoedd ar gyfer gwella. Edrychodd ein hadolygiad ar y cynnydd o ran trawsnewid gwasanaethau gofal heb ei drefnu er mwyn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd yng nghyhoeddiadau blaenorol Swyddfa Archwilio Cymru. Gweld mwy
Cyhoeddiad Celfyddydau, diwylliant a hamdden Adolygiad diagnostig o drefniadau cadw gwybodaeth wrth gefn ... Mae’r defnydd o systemau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) a’r ddibyniaeth arnynt yn cynyddu. Mae argaeledd data a systemau TGCh cadarn yn chwarae rhan bwysig o ran cynllunio a darparu gofal sy'n canolbwyntio ar gleifion a rhaglenni gwella iechyd neu wyliadwriaeth ehangach yn seiliedig ar y boblogaeth. Rhan hanfodol o'r broses hon yw trefniadau effeithiol ar gyfer cadw copïau wrth gefn o ddata a gwybodaeth. Mae'r archwiliad hwn yn bwnc pwysig i gyrff y GIG sy'n dibynnu ar allu gweld data a gedwir mewn systemau TGCh. Gweld mwy
Cyhoeddiad Iechyd a gofal cymdeithasol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg - Absenoldeb o... Gall lefelau uchel o salwch gael effaith andwyol ar allu sefydliad i gyflawni ei amcanion, costio llawer o arian, cymryd llawer o amser i’w rheoli, ac, yn y pen draw, effeithio ar ansawdd y gwasanaeth neu'r gofal a roddir i gleifion. Gweld mwy
Cyhoeddiad Iechyd a gofal cymdeithasol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - Adolygiad o Offer ... Mae cyrff iechyd yn nodweddiadol yn berchen ar filoedd o eitemau o offer meddygol ac yn cynnal ac yn cadw'r eitemau hynny. Gall offer meddygol gyflawni swyddogaethau niferus megis diagnosis, atal, monitro, ymchwilio a thrin. Felly mae'n hanfodol bod cyrff iechyd yn rheoli eu hoffer meddygol mewn ffordd sy'n sicrhau diogelwch cleifion a gofal o ansawdd uchel. Mae offer meddygol, fel y'i diffinnir gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, yn cynnwys pob dyfais feddygol sy'n gysylltiedig â chleifion fel rhan o'u triniaeth a'u gofal yn yr ysbyty, a dyfeisiau meddygol a ddefnyddir at ddibenion diagnostig a labordy. Gweld mwy
Cyhoeddiad Iechyd a gofal cymdeithasol Presgripsiynu gofal sylfaenol - Bwrdd Iechyd Cwm Taf Mae rheolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar bresgripsiynu gofal sylfaenol wedi’i chefnogi gan weledigaeth strategol eglur ac arweiniad da. Gwnaed cynnydd da yn sicrhau arbedion ariannol o bresgripsiynu mwy rhesymegol, er bod lefelau uchel o bresgripsiynu o hyd ac mae lle i wella ansawdd presgripsiynu mewn meysydd allweddol. Gweld mwy
Cyhoeddiad Rhoi Ynni i mewn i Werthusiadau Perfformiad - Gwasanaeth Pra... Fe ddefnyddiodd Gwasanaeth Prawf De Cymru (gynt) Werthusiadau perfformiad staff i weithredu eu polisi gwyrdd ar draws y sefydliad. Fe wnaeth isadrannau Ieihau milltiroedd, gynyddu ailgylchu ac adrodd ar eu cynnydd ar weithredu'r Polisi i'r Bwrdd. Gweld mwy
Cyhoeddiad Arbed Arian Trwy Archwiliadau Dŵr - Heddlu De Cymru Cafodd Heddlu De Cymru eu darparu ag archwiliadau Dŵr Cymru a chynhaliwyd camau gweithredu adferol am ddim. Maent wedi arbed £10,000 y flwyddyn ym Mhencadlys Heddlu De Cymru. Mae Pencadlys Heddlu De Cymru lledaenu ar draws 12 acer ac yn cynnwys ystod amrywiol o Iety, o adeiladau cyn y rhyfel i amgylcheddau modern, addas i'r pwrpas. Mae'r safle yn defnyddio cyfartaledd o 13.5 miliwn Litr o Dŵr y flwyddyn ar gost - £38,000. Gweld mwy
Cyhoeddiad Ymgysylltu â Staff mewn Ynni - ‘Turning off the Northern Lig... Mae Heddlu De Cymru yn mynd ati i ddatblygu rhaglen Buddsoddi i Arbed ar draws ei ystâd fel rhan o'i ymrvvymiad Ileihau carbon ac effeithlonrwydd ynni. Y fenter ddiweddaraf oedd gwella'r Goleuadau yng Ngorsaf Heddlu Pontypridd. Mae'r arbedion cyffredinol o'r fenter wedi eu hamcangyfrif yn £12k mewn costau ynni is. Bydd yr arbedion yn uwch yn y dyfodol wrth i gostau ynni godi. Gweld mwy
Cyhoeddiad Rheoli dŵr - y manteision go iawn o ddarllen mesurydd - Bwrd... Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn defnyddio Darllenydd Mesurydd Awtomatig fel offeryn perfformiad yn ogystal ag offeryn rhybudd, sy'n eu galluogi i reoli defnydd yn effeithlon, ymateb yn syth i anghysondebau ac arbed arian. Gweld mwy
Cyhoeddiad Grwpiau Ardal Aelodau - Cyngor Sir Ddinbych Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi sefydlu Grwpiau Ardal Aelodau sy'n cynnig dulliau ymgysylltu a deialog â chymunedau ar Iawr gwlad. Megis cychwyn y maent ond mae'r Grwpiau Ardal Aelodau yn cynnig pob cyfle i Aelodau Etholedig gyd-drafod materion ar sail ddaearyddol. Mae ymgynghori o'r fath yn golygu y gallai adborth gan y gymuned ddylanwadu'n uniongyrchol ar drefniadau craffu'r Awdurdod a phartneriaethau. Gweld mwy