Aelodau'r Bwrdd

Dr Ian J Rees

Example image

Yn frodor o Abertawe, mae Dr Ian Rees wedi treulio ei yrfa ym maes addysg a hyfforddiant yng Nghymru ac wedi datblygu cryn brofiad yn gweithio ar lefel ranbarthol a chenedlaethol.

Wedi’i addysgu i fod yn ffisegydd, datblygodd yrfa mewn addysg a bu'n Bennaeth ysgol uwchradd yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog cyn symud i Addysg Bellach fel Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Meirion-Dwyfor.

Yn 2010 fe wnaeth froceru ac arwain y gwaith o uno Coleg Meirion Dwyfor a Choleg Llandrillo Cymru. Cymerodd ef un o'r prif swyddi hefyd pan ymunodd Coleg Menai i ffurfio Grŵp Llandrillo Menai ym mis Ebrill 2012. Ymddeolodd o’i swydd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Grŵp Llandrillo Menai ym mis Ionawr 2019 ac erbyn hyn mae’n gwneud rhywfaint o waith fel Ymgynghorydd Addysg a Hyfforddiant. Mae hefyd yn aelod o Gyngor Prifysgol Bangor.

Dros y blynyddoedd bu'n aelod o nifer o grwpiau rhanbarthol a cenedlaethol gan gynnwys Nant Gwrtheyrn, aelod o Bwyllgor Rhanbarth Canolbarth Cymru ELWa yn ogystal ag aelod o'r Bwrdd ar gyfer fforwm (ColegauCymru erbyn hyn) a Gyrfa Cymru (Gogledd-orllewin Cymru). Bu'n aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru am 6 blynedd ac yn Is-gadeirydd y Cyngor am dair blynedd. Rhwng mis Ebrill 2012 a mis Mawrth 2015 roedd yn Gadeirydd Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg. Ym mis Ebrill 2015 ymunodd â'r Pwyllgor Archwilio a Risg ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg a bu'n Gadeirydd y pwyllgor rhwng 2018 a Haf 2020.

Mae'n byw yng Nghricieth gyda'i wraig ac yn mwynhau chwaraeon (fel gwyliwr erbyn hyn), cerddoriaeth (yn enwedig corawl) a materion cyfoes.