Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Trefniadau ar gyfer cyflawni ansawdd archwilio
Ar hyn o bryd rydym yn ein trydydd contract ar gyfer monitro ansawdd yn allanol gydag Adran Sicrhau Ansawdd (QAD) Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW). QAD yw'r rheoleiddiwr mwyaf ar gyfer cwmnïau archwilio yn y DU a’r rheoleiddiwr archwilio llywodraeth leol yn Lloegr.
Mae hwn yn faes y buddsoddwyd yn sylweddol ac yn barhaus ynddo trwy estyn nifer yr archwiliadau o gyfrifon a adolygir a chyflwyno adolygiad QAD o’n gwaith archwilio perfformiad.
Ym mis Mawrth 2024, fe gynhaliom ni arolwg rhanddeiliaid byr gyda chyrff a archwilir. Roedd hwn wedi’i fwriadu i ategu’r arolygon annibynnol a gynhaliwyd gennym yn 2023 ar gyfer y cyhoedd ac ystod o randdeiliaid eraill. Mae’r negeseuon ar y cyfan yn debyg – mae ein rhanddeiliaid yn gwerthfawrogi ein hannibyniaeth, ansawdd y gwaith yr ydym yn ei wneud a’n perthnasoedd gweithio.
Mae adolygiadau oer yn adolygiadau o archwiliadau cyfan i asesu’r modd y cydymffurfiwyd â safonau ansawdd rhagnodedig. Cânt eu cynnal ar ôl i’r archwiliad gael ei orffen.
Rydym yn defnyddio dull cylchdroi ar gyfer cynnal adolygiadau oer, gan sicrhau bod yr holl reolwyr archwilio’n cael eu hadolygu o leiaf bob tair i bedair blynedd. Yn yr un modd, bydd pob cyfarwyddwr ymgysylltu’n cael ei adolygu’n flynyddol fel rheol.
Rydym yn amcanu at sicrhau bod cwmpas yr holl adolygiadau’n cynrychioli’r sectorau archwilio, y cyrff a archwilir a chymhlethdod.
Fe ganolbwyntiodd rhaglen QAD ar archwiliadau o gyfrifon mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2022-23 ac adroddiadau archwilio perfformiad a gyhoeddwyd/a gwblhawyd yn 2023 ac yn gynnar yn 2024.
Rydym yn cyfranogi mewn rhwydwaith o asiantaethau archwilio o bob rhan o’r DU ac Iwerddon. Mae hyn yn cynnwys rhaglen flynyddol o adolygiadau gan gymheiriaid o rai adroddiadau archwilio perfformiad. Rydym yn bwriadu defnyddio canlyniadau’r adolygiadau hyn fel rhan o’n gwaith ar ddiweddaru ein templedi ar gyfer adroddiadau a’n dull ysgrifennu.
Adolygiadau heb sgôr o waith archwilio sy’n bwrw golwg ar faterion penodol ar draws nifer o archwiliadau yw adolygiadau thema. Mae ein holl adolygiadau thema wedi cael eu cynnal yn fewnol. Gallai’r rhain ganolbwyntio ar ba mor effeithiol y mae safon archwilio newydd wedi cael ei chymhwyso’n ymarferol; mater sy’n dod i’r amlwg a adnabuwyd ar draws y proffesiwn; neu feysydd sydd o ddiddordeb neu’n peri pryder yn Archwilio Cymru. Fe'u bwriedir fel ymarferion dysgu i nodi a oes angen rhagor o hyfforddiant, arweiniad neu gymorth arall.
Mae adolygiadau thema diweddar wedi cynnwys gwerthuso sampl o ffeiliau archwilio cyfrifon i ddeall sut yr oedd y dull diwygiedig ar gyfer 2022-23 yn cael ei roi ar waith. Fe wnaeth hyn oleuo’r hyfforddiant diweddaru ar y dull archwilio a ddarparwyd yn gynnar yn 2024. Adnabu’r adolygiad rai pwyntiau a oedd yn gyson â’r adolygiadau oer a gyflawnwyd gan QAD.
Yn 2023 fe gynhaliom ni adolygiad thema o lywodraethu gwybodaeth a data a oedd yn gysylltiedig ag archwilio perfformiad. Roedd hwn yn gyfle i ddeall arfer cyfredol ac adnabod gwersi allweddol. Yn 2024 fe gyhoeddom ni ganllawiau wedi’u diweddaru ar ffolderi cyfyngedig a phecyn hyfforddiant ar-lein i helpu archwilwyr i gydymffurfio â chyfraith diogelu data.
Mae Dadansoddi Achosion Sylfaenol (RCA) yn derm cyfunol sy'n disgrifio ystod eang o ddulliau, offer a thechnegau a ddefnyddir i adnabod prif achosion deilliannau.
Ein nod yw gwneud gweithgareddau Dadansoddi Achosion Sylfaenol ar gyfer monitro ansawdd yn rhan o brosesau arferol.Er mwyn helpu i bennu ein dull a'n polisi ar gyfer Dadansoddi Achosion Sylfaenol, rydym wedi:
Polisi Archwilio Cymru yw cynnal gweithgaredd Dadansoddi Achosion Sylfaenol pan fo adolygiad allanol o ansawdd yn rhoi sgôr o 3 neu 4 i ymrwymiad archwilio. Yn 2023 rhoddodd QAD sgôr o 3 (angen gwelliannau) i un archwiliad lleol. Fe gwblhaom ni weithgaredd Dadansoddi Achosion Sylfaenol ym mis Ionawr 2024. Fe wnaeth y gweithgaredd Dadansoddi Achosion Sylfaenol alluogi’r tîm archwilio (gyda chymorth hwylusydd Dadansoddi Achosion Sylfaenol) i fyfyrio ynghylch achosion sylfaenol materion a adnabuwyd gan adolygiad QAD. Fe helpodd hyn y tîm archwilio a’r tîm Datblygu a Chanllawiau Archwilio i ystyried pa faterion oedd yn benodol i’r archwiliad a pha rai fyddai’n berthnasol i archwiliadau tebyg er mwyn datblygu camau gweithredu priodol. Cynhaliwyd y broses mewn ffordd gefnogol, gyda ffocws ar wella’n barhaus.
Adolygiadau o ffeiliau archwilio cyfrifon, neu rannau o ffeiliau archwilio, a gynhelir cyn cwblhau’r archwiliad yw Adolygiadau o Ansawdd Ymrwymiadau. Fe’u cyflawnir Tudalen 30 o 40 - Adroddiad Ansawdd Archwilio 2024 gan gyfarwyddwyr sy’n gymheiriaid a gallant fod yn ofynnol mewn nifer o amgylchiadau, megis lle mae arweinydd ymrwymiad newydd yn ei le; lle cynigir adroddiad archwilio amodol; lle mae'r arweinydd ymrwymiad yn gofyn am adolygiad gan gymheiriaid o fater technegol neu gymhleth; neu, lle’r oedd mater a oedd yn ymwneud ag ansawdd mewn blynyddoedd blaenorol. Nid yw'r adolygiadau hyn yn cael eu sgorio. Yn hytrach, fe'u cynhelir i ganolbwyntio ar feysydd risg ac i’w gwneud yn bosibl datrys unrhyw faterion sy'n peri pryder cyn i'r farn archwilio gael ei rhoi.
Sefydlwyd y Pwyllgor Ansawdd Archwilio yn 2020 i gryfhau ein fframwaith ansawdd archwilio gyda golwg ar gynyddu tryloywder y trefniadau hynny a gwella hyder ynddynt. Mae’r Pwyllgor – sy’n cwrdd yn chwarterol yn unol â’i raglen waith – yn cynnwys:
Amcanion penodol y Pwyllgor yw ein cynorthwyo i sicrhau:
Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol yn benodol am ddarparu sicrwydd ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol bod adnoddau priodol yn eu lle i roi cymorth i reoli, monitro a gwella ansawdd archwilio yn Archwilio Cymru. Cyflawnir hyn trwy Adroddiad Annibynnol Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Corfforaethol, sy’n rhan o’r Adroddiad Ansawdd hwn.
Mae Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru wedi cytuno i weithredu fel Cyswllt Ansawdd y Bwrdd i gynorthwyo’r Bwrdd i ddatblygu dealltwriaeth lawnach am ein trefniadau ansawdd archwilio, am yr heriau a wynebir gennym wrth geisio cyflawni ansawdd archwilio ac i wella tryloywder y trefniadau hynny.
Rydym ni’n credu bod y rôl hon yn elfen bwysig o’n huchelgais i gyflawni gwelliant parhaus mewn ansawdd archwilio.
Mae cyflymder parhaus y newid ym myd archwilio’n ddigynsail gyda heriau sylweddol megis darparu adnoddau; adrodd ar archwilio cynaliadwyedd; digideiddio a mwy o ddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial. Nid yw’n syndod o gwbl, felly, bod safonau archwilio’n canolbwyntio’n gryf ar ansawdd tystiolaeth archwilio. Eto, crëwyd argraff arnaf gan lefel y flaenoriaeth y mae Archwilio Cymru’n ei rhoi i ddiogelu’r sefydliad at y dyfodol i barhau i fod yn ystwyth wrth ymateb i heriau yn y dyfodol.