Rhaglen Hyfforddiant i Raddedigion
Main navigation
Os ydych yn meddu ar natur ymholgar, yn mwynhau gwaith tîm, yn ymddiddori mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac yn awyddus i hyfforddi i fod yn gyfrifydd, ein rhaglen i raddedigion yw’r un i chi.
- Pam ddylech chi wneud cais?
- Am bwy ydym ni'n chwilio?
- Beth fyddwch chi’n ei wneud?
- Y broses ddethol
- Mwy o wybodaeth
Pam ddylech chi wneud cais?
Mae gyrfa yn Swyddfa Archwilio Cymru yn ymwneud â mwy na rhifau. Mae’n ymwneud â gwneud gwahaniaeth – mae’n yrfa sydd wir yn cyfrif!
Mae gwasanaethau cyhoeddus wrth galon cymdeithas yng Nghymru. Pan fyddant yn gweithio’n dda, byddant yn gwella ansawdd bywyd pobl, ond pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le, gall cymunedau ddioddef. Bryd hynny, bydd rôl Swyddfa Archwilio Cymru’n bwysig. Mae ein staff a’n gwaith yn cynorthwyo’r Archwilydd Cyffredinol, sef corff gwarchod sector cyhoeddus Cymru.
Fel gweithle, mae hwn ychydig yn wahanol i’r arfer. Mae ein pobl o bwys gwirioneddol inni, ac rydym yn cynnig diwylliant croesawgar ac amgylchedd sy’n eu hannog i daro cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Hefyd, mae ein gwaith i wneud i arian cyhoeddus gyfrif yn helpu i wneud gwahaniaeth i wasanaethau cyhoeddus a chymunedau Cymru.
Mae ein Rhaglen Hyfforddi Graddedigion yn gyfle i hyfforddi i fod yn gyfrifydd siartredig, ochr yn ochr â chyfle unigryw i fynd ar secondiad. Gallai fod yn secondiad mewnol neu’n secondiad ar draws y sector cyhoeddus ehangach ac mewn sefydliadau eraill a ariennir ag arian cyhoeddus.
Cewch hefyd gyfle i feithrin llawer o sgiliau eraill, gan gynnwys arwain, meddwl beirniadol, a deallusrwydd emosiynol, a bydd hyn yn arwain at ennill cymhwyster gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM).
Buddion cyflogeion
Gallwch gael y buddion a ganlyn:
- cyflog cychwynnol o £20,504
- hyfforddiant cyfrifyddiaeth y telir amdano’n llwyr
- hyfforddiant cyfrifyddiaeth o’r radd flaenaf gyda darparwr allanol, gyda chyfraddau pasio arholiadau uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol
- lwfans teithio o £3,350 (yn ddibynnol ar y meini prawf cymhwysedd)
- rhagdaliad cyflog o hyd at £1,500 ar gyfer blaendal tenantiaeth
- 33 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau cyhoeddus)
- y gallu i brynu ac i werthu gwyliau blynyddol (ymhen blwyddyn ar ôl ichi ymuno)
- mynediad at Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Pecyn astudio
Bydd y pecyn hwn yn eich helpu i astudio tuag at gymhwyster cyfrifyddiaeth proffesiynol cydnabyddedig (rydym wedi’n hachredu fel sefydliad hyfforddi gyda Chymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) [agorir mewn ffenest newydd], y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) [agorir mewn ffenest newyss] a Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW) [agorir mewn ffenest newydd]. Sylwch ein bod yn cefnogi graddedigion drwy lwybr ICAEW ar hyn o bryd.
Byddwn yn talu’r holl gostau sydd ynghlwm wrth aelodaeth myfyriwr o’r ICAEW, hyfforddiant, arholiadau a deunyddiau astudio. Byddwn hefyd yn darparu cymorth a chefnogaeth o ansawdd uchel pan fyddwch yn astudio ar gyfer y cymhwyster hwn, a byddwch yn cael eich rhyddhau am gyfnodau i gael hyfforddiant llawn mewn coleg.
Rhwydwaith cymorth
Yn ogystal â chefnogaeth eich cyfoedion, byddwn hefyd yn clustnodi’r unigolion a ganlyn i’ch cynorthwyo:
- rheolwr llinell a fydd yn rhoi cymorth ac arweiniad cyffredinol ichi ac a fydd hefyd yn gweithredu fel cwnselydd astudiaethau proffesiynol ac yn chwarae rôl hollbwysig i'ch datblygu a’ch cynorthwyo drwy gydol eich astudiaethau proffesiynol;
- bydi i’ch helpu i ymgynefino’n rhwydd â’ch swydd newydd, yn ogystal â rhoi cymorth anffurfiol parhaus i chi, eich cyflwyno i rwydwaith cymdeithasol, a bod yn fan cychwyn ar gyfer ymholiadau cyffredinol.
Byddwch yn cael cymorth, anogaeth a chyfleoedd i dyfu. Byddwch yn ymuno â phobl sydd yr un mor frwdfrydig â chi o ran eich datblygiad ac yr un mor awyddus i’ch gweld yn llwyddo.
Am bwy ydym ni'n chwilio?
Mae gennym ddiddordeb gwirioneddol ynoch chi fel unigolyn, eich cryfderau a’ch potensial.
Beth bynnag fo disgyblaeth eich gradd, rydym yn chwilio am unigolion â chefndir academaidd cadarn sydd wedi ymrwymo i wella gwasanaethau cyhoeddus ac sy’n eu hystyried eu hunain yn arweinwyr y dyfodol yn sector cyhoeddus Cymru.
Bydd arnoch angen:
- Gradd ail ddosbarth mewn unrhyw ddisgyblaeth
- Canlyniadau academaidd da ar lefel Safon Uwch
- Canlyniadau TGAU da, gan gynnwys gradd B mewn Saesneg a Mathemateg
- Trwydded yrru neu barodrwydd i ddysgu
Byddwch:
- wedi ymrwymo i weithio yn sector cyhoeddus Cymru
- yn meddu ar natur holgar, hyder i herio a chael eich herio ond mewn modd proffesiynol
- yn gallu dangos eich bod yn rhoi sylw rhagorol i fanylder ac yn gallu gweld y darlun mwy ar yr un pryd
- yn gallu dangos cymhelliad ac ymrwymiad i fod yn gyfrifydd
- yn gallu dangos ethos gwaith tîm
- yn awyddus i'ch datblygu eich hun yn barhaus ac i sicrhau bod eich gwybodaeth a’ch sgiliau’n cael eu diweddaru’n gyson.
Er ein bod yn chwilio am unigolion â record academaidd gadarn, byddwn hefyd yn ystyried beth arall sydd gan yr ymgeisydd i’w gynnig – boed yn gyflawniadau personol neu broffesiynol.
Ceir mwy o wybodaeth am y sgiliau a’r galluoedd sy’n ofynnol ar gyfer y swydd yn ein disgrifiad swydd [PDF 269KB agorir mewn ffenestr newydd].
Siaradwyr Cymraeg
Rydym yn rhoi gwerth ar bwysigrwydd y Gymraeg yn ein gwaith ac rydym yn anelu at ddarparu gwasanaeth dwyieithog i bawb sydd am ei ddefnyddio. Felly, rydym yn annog unigolion sy’n meddu ar sgiliau Cymraeg yn enwedig i wneud cais i’n helpu ni i gyrraedd ein nod.
Bydd pob disgrifiad swydd yn nodi a yw’n hanfodol i ddeiliad y swydd allu siarad Cymraeg. Os byddwch yn llwyddiannus ac nad ydych yn meddu ar sgiliau Cymraeg ar hyn o bryd, gallwn eich cynorthwyo i ddysgu Cymraeg os hoffech wneud hynny.
Mae’r sgiliau Cymraeg a ganlyn yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Fodd bynnag, gan ein bod yn recriwtio ar gyfer sawl hyfforddai graddedig i weithio mewn lleoliadau ledled Cymru, bydd nifer bychan o’r swyddi yn Gymraeg hanfodol. Edrychwch ar ein matrics sgiliau iaith [PDF 549KB agorir mewn ffenestr newydd] i gael disgrifiad o’r lefelau sgiliau. Os hoffech drafod natur y sgiliau Cymraeg a bennwyd ar gyfer y swydd hon, cysylltwch â Swyddfa Archwilio Cymru.
Sgiliau Cymraeg – dymunol
- Darllen – gallu darllen peth deunydd cyffredin sy’n ymwneud â’r gwaith gyda chymorth e.e. geiriadur
- Siarad – gallu cael rhai sgyrsiau sy’n ymwneud â’r gwaith
- Deall – gallu deall sgyrsiau cyffredin sy’n ymwneud â’r gwaith
- Ysgrifennu – gallu paratoi deunydd cyffredin sy’n ymwneud â’r gwaith, gyda gwasanaeth gwirio
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Mae ein hyfforddeion yn gweithio gyda nifer o dimau ar draws y tîm gwasanaethau archwilio ac mewn meysydd busnes eraill fel ein tîm Cyllid. Byddwch yn ennill gwybodaeth am yr agweddau technegol gwahanol ar ein gwaith archwilio, a phrofiad ohonynt, er enghraifft, archwiliadau allanol mewn nifer o wahanol gleientiaid ar draws y sector cyhoeddus, gwaith ardystio grantiau, dadansoddi data, llywodraethu a gwaith gwerth am arian.
Byddwch hefyd yn dysgu sut i feithrin ac i gynnal perthynas waith dda yn fewnol ac yn allanol. Byddwch yn gwneud hyn ochr yn ochr ag astudio ar gyfer eich cymhwyster cyfrifyddiaeth, a byddwch yn cael eich cefnogi drwy raglen dysgu a datblygu lawn. Er bod ein cleientiaid wedi’u lleoli ledled Cymru, mae ein staff wedi’u lleoli mewn ardaloedd daearyddol (y De, y Gogledd a’r Gorllewin) ac mae disgwyl iddynt deithio i swyddfeydd cleientiaid amrywiol ar hyd a lled yr ardaloedd hyn. O’r herwydd, mae’r gallu i yrru neu i ddysgu i yrru yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Byddwn yn ystyried addasiadau rhesymol ar gyfer y rheini nad ydynt yn gallu gyrru oherwydd nam.
Yn ôl i’r brig
Y broses ddethol
Cam 1: gwneud cais ar-lein
I gychwyn, byddwn yn bwrw golwg dros eich cais i wneud yn siŵr ei fod yn bodloni ein gofynion academaidd. Os byddwch yn bodloni’r gofynion academaidd, byddwn yn asesu’ch ymatebion i’r pedwar cwestiwn allweddol sy’n seiliedig ar sgiliau.
Bydd y cwestiynau hyn yn eich asesu chi ar sail y sgiliau craidd rydym ni’n chwilio amdanynt (fel y'u nodir uchod), a byddwn yn chwilio am enghreifftiau penodol lle rydych wedi dangos y sgiliau hyn.
Gallech roi enghreifftiau o’ch cyfnod yn y brifysgol/ysgol, eich profiad gwaith fel swyddi rhan-amser tra roeddech yn yr ysgol neu’r brifysgol, neu unrhyw weithgareddau allgyrsiol y buoch yn ymwneud â nhw (ond heb fod yn gyfyngedig i’r pethau hyn).
Gair i gill: Cewch roi ateb hyd at 250 gair ar gyfer pob cwestiwn. Mae hyn yn rhoi cyfle ichi roi enghreifftiau manwl. Nid ydym wedi pennu isafswm geiriau, ond nid yw’n debygol y bydd atebion byr iawn yn dangos yr ymddygiad rydym yn chwilio amdano mewn digon o fanylder, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi atebion digon hir.
Sylwch: mae’r un nifer o farciau ar gael ar gyfer pob cwestiwn. Mae pobl sy’n frwdfrydig ynghylch gwaith Swyddfa Archwilio Cymru a’r cyfraniad y gallant ei wneud ato bob amser yn gwneud argraff arnom. Felly, rydym yn eich annog i wneud ychydig o waith ymchwil ac i ystyried sut y byddech chi'n gweithio gyda ni.
Ar ôl eu cwblhau, bydd ein sgrinwyr hyfforddedig yn marcio’ch atebion. Os byddwch yn sgorio’r marc gofynnol, byddwch yn camu ymlaen i’r ail gam.
Bryd hynny, byddwn hefyd yn gofyn ichi gwblhau profion seicometrig ar-lein.
Gair i gill: Cyn cwblhau’r profion, rydym yn argymell eich bod yn ymarfer pob prawf o leiaf unwaith. Bydd hyn yn rhoi syniad ichi o’r math o gwestiynau a ofynnir a pha mor hir y bydd yn ei gymryd ichi eu hateb. Mae’n ffordd wych o baratoi, gan eich helpu i ymlacio ac i berfformio ar eich gorau.
Cam 2: canolfan asesu
Yn y ganolfan asesu, byddwch yn ymgymryd â nifer o ymarferion fel unigolyn ac mewn grŵp lle cewch eich asesu ar sail y disgrifiad swydd/manyleb y person a gwerthoedd ac ymddygiadau Swyddfa Archwilio Cymru. Cewch fwy o fanylion am y ganolfan asesu os cewch wahoddiad i ddod iddi.
Os byddwch yn llwyddiannus yn y ganolfan asesu, cewch eich gwahodd i drydydd cam y broses asesu.
Cam 3: cyfweliad a chyflwyniad
Cyfweliad panel yw’r cyfweliad terfynol. Bydd hefyd yn gyfle perffaith ichi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am ein sefydliad a’n rhaglen hyfforddi.
Cam 4: cynnig swydd
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus wedi perfformio’n dda ym mhob agwedd ar y broses asesu. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn cynnig swydd ichi yn amodol ar nifer o wiriadau cyn cyflogi, gan gynnwys gwiriadau diogelwch a gwirio’r graddau academaidd a roddwyd ar eich ffurflen gais.
Mwy o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch ein cynllun hyfforddi graddedigion neu’r broses ddethol, neu os oes gennych unrhyw ofynion penodol, cysylltwch â’r tîm Adnoddau Dynol drwy ffonio 029 2032 0547 neu e-bostio: recriwtio.hyfforddai@archwilio.cymru