
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Gosod amcanion llesiant
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Defnyddio gwybodaeth am…
-
Adroddiad Cydraddoldeb 2022-23
-
Adolygiad Strategaeth Ddigidol – Cyngor Castell-nedd Port Talbot
-
Cyngor Gwynedd – Adolygiad o effeithiolrwydd craffu
Mae angen y diwylliant, sgiliau a systemau cywir ar gynghorau er mwyn datgloi buddion masnacheiddio a lliniaru'r risgiau cysylltiedig
Mae ein hadroddiad yn dangos bod llywodraeth leol wedi ymdrin ag effaith cyni yn dda hyd yn hyn. Fodd bynnag, wrth i ddisgwyliadau y cyhoedd a'r galw am wasanaethau gynyddu, mae cynghorau'n wynebu dyfodol heriol.
Ynghyd ag effaith y pandemig COVID-19, maent hefyd yn gweithio, ac yn darparu gwasanaethau i gymunedau, mewn ffyrdd y gall fod wedi newid yn sylfaenol.
Mae cynghorau wedi ymgymryd â gweithgarwch masnachol ar ryw ffurf ers amser maith, ac mae llawer o gynghorau'n archwilio cyfleoedd masnachol ychwanegol i liniaru yn erbyn y pwysau ariannol y maent yn eu hwynebu.
Wrth i dargedau ariannol fynd yn fwyfwy uchelgeisiol, mae angen ystyried ffyrdd gwahanol o wneud arbedion, diogelu gwasanaethau a chreu incwm. O ganlyniad mae masnacheiddio'n dod yn fwyfwy pwysig ar gyfer cynghorau.
Mae'n hadroddiad wedi'i anelu'n benodol at helpu aelodau etholedig ac uwch-swyddogion i archwilio a dyfarnu ar yr effaith bosibl ar eu sefydliadau wrth ystyried a ddylid ymgymryd â gweithgareddau masnacheiddio. Bydd hefyd yn helpu cynghorau i ddangos pa mor dda y maent yn cyflawni eu cyfrifoldebau o safbwynt sicrhau gwerth am arian.