Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Gallai’r ffigurau fod rhwng £100 miliwn ac £1 biliwn.

    Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn cydnabod bod twyll yn un o’r troseddau mwyaf cyffredin yng nghymdeithas yr oes sydd ohoni. Fodd bynnag, mae rhai uwch-arweinwyr yn y sector cyhoeddus yn amheus ynghylch y lefelau o dwyll sydd yn eu sefydliadau.

    O ganlyniad, maent yn gyndyn o fuddsoddi mewn trefniadau atal twyll ac maent yn rhoi blaenoriaeth isel i’r gwaith o ymchwilio i achosion o dwyll posibl y mae’r Fenter Twyll Genedlaethol yn tynnu eu sylw atynt.

    ,

    Bygythiadau presennol

    Mae twyllwyr yn ymddangos cyn gynted ag y bydd cyfle’n codi. Gwelwyd cynnydd enfawr mewn gweithgarwch twyllodrus yn ddiweddar, yn enwedig mewn seiberdroseddu, yn ystod y pandemig COVID-19 presennol.

    Rydym o’r farn bod y pandemig yn cynnig cyfle pwysig i weithwyr ym maes atal twyll yng Nghymru ddod ynghyd (drwy ddulliau priodol) a myfyrio ynghylch cyflymder ac effeithiolrwydd eu hymateb i’r twyllwyr. 

    Beth y mae angen ei wneud?

    Gall cyrff y sector cyhoeddus leihau’r risgiau hyn drwy sicrhau bod ganddynt y diwylliant sefydliadol cywir a ategir gan drefniadau cadarn ar gyfer atal twyll.

    ,
    At hynny, ceir llawer o botensial i Gymru fanteisio lle bo’n briodol ar lawer o’r mentrau atal twyll sydd ar y gweill ar draws sector cyhoeddus ehangach y DU.
    ,

    Yn eu plith y mae Proffesiwn Atal Twyll Llywodraeth y DU, sef proffesiwn cydnabyddedig a sefydlwyd yn ddiweddar sydd â chymwyseddau clir a llwybrau clir o ran gyrfa.

    At hynny, mae angen ffocws cynyddol ar wneud defnydd mwy clyfar o wyddor dadansoddi data.

    Beth yw trefniadau da?

    Byddai ymateb diguro o safbwynt atal twyll yn golygu bod arbenigwyr atal twyll wedi nodi’r risgiau o leiaf yr un mor gyflym â’r twyllwyr, os nad yn gynt.

    Byddai hefyd yn golygu bod ganddynt yr offer cywir i atal a chanfod twyllwyr sy’n ecsbloetio unrhyw gyfleoedd newydd; a bod yr ymateb o safbwynt atal twyll wedi symud yn gyflym drwy gydweithio a rhannu gwybodaeth yn effeithiol.

    ,
    Image 50%
    Ein hadroddiad
    Text 50%

    Ein hadroddiad

    Mae ein hadroddiad yn archwilio saith ‘thema allweddol’ y mae angen i bob corff cyhoeddus ganolbwyntio arnynt wrth wella eu perfformiad o safbwynt mynd i’r afael â thwyll yn fwy effeithiol.

    scroll Animate
    Off
    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    £8m o dwyll a gordaliadau wedi’u canfod yng Nghymru trwy’r Fenter Twyll Genedlaethol

    View more
    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    A all Cymru ymdopi ag effaith ariannol y pandemig ar lywodraeth leol?

    View more
    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Dylai arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus sicrhau bod mynd i’r afael â thwyll yng Nghymru yn cael mwy o flaenoriaeth

    View more
CAPTCHA