
-
Cyngor Sir Powys – Adolygiad Strategaeth Ddigidol
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Gosod amcanion llesiant
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Defnyddio gwybodaeth am…
-
Adroddiad Cydraddoldeb 2022-23
-
Adolygiad Strategaeth Ddigidol – Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Mae ein darn ystyriaeth ddiweddaraf yn ystyried rhai o'r heriau er mwyn gweithredu
Ar sail ei ymchwiliadau ôl deddfu pedwar deddf bwysig, mae Archwilio Cymru’n rhoi sylw fan hyn i rai o’r heriau y mae awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn eu hwynebu pan fyddant yn ceisio rhoi deddfwriaeth ar waith.
Mae rhoi deddfwriaeth ar waith yn dasg gymhleth, ac mae angen i Lywodraeth Cymru a’r Senedd roi ystyriaeth fanwl i’r dasg hon pan fyddant yn cynnig ac yn gwneud unrhyw ddeddfwriaeth newydd. Os nad oes ystyriaeth ddigonol yn cael ei roi i’r modd y caiff deddfwriaeth ei rhoi ar waith pan gânt eu llunio a’u craffu, nid yw’n debygol y bydd yr amcanion polisi'n cael eu gwireddu.
Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio pum adroddiad a gyhoeddwyd rhwng 2019 a heddiw yn edrych ar sut mae awdurdodau lleol yn ymateb i'r her o weithredu deddfwriaeth newydd. Nododd pob un o'r adolygiadau hyn rai anawsterau a wynebir gan awdurdodau lleol a'u partneriaid yn y sector cyhoeddus wrth weithredu eu cyfrifoldebau newydd.
Mae'r papur hefyd yn tynnu sylw at rai materion cyffredin pwysig sy'n codi o'r adroddiadau hyn, ac yn honni y byddai cynnal rhywfaint o archwiliad ôl-ddeddfwriaethol o ba mor dda y mae deddfwriaeth newydd yn cael ei gweithredu neu, yn wir, a yw'n cael ei gweithredu o gwbl yn ymarfer arfer da.