Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Ein cynllun blynyddol

    Mae ein cynllun blynyddol yn cael ei baratoi ar y cyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'n disgrifio'r camau yr oeddem yn bwriadu eu cymryd yn ystod y flwyddyn i ddod er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau cyffredinol a'n hamcanion strategol. 

    Ychydig cyn yr oeddem yn bwriadu cyhoeddi, fe ddaeth y sefyllfa eithriadol gyda Covid-19 yn fwyfwy amlwg. O ganlyniad, rydym wedi hysbysu'r cyrff cyhoeddus rydym yn eu harchwilio ein bod wedi lleihau ein gwaith ac yn mabwysiadu dulliau darparu amgen gan ein bod am sicrhau nad yw archwiliad yn ychwanegu mewn unrhyw ffordd at y pwysau enfawr sydd eisoes yn wynebu'r sector cyhoeddus yng Nghymru.

    Dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, byddwn yn penderfynu beth yw’r ffordd gorau y gallwn helpu pobl Cymru a'u gwasanaethau cyhoeddus oresgyn yr argyfwng presennol, gan roi sicrwydd, hyrwyddo arferion da a helpu sicrhau bod adnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio mor effeithiol â phosibl.

    Er gwaethaf yr ansicrwydd a'r anawsterau sydd o'n blaenau, credwn fod ein huchelgeisiau cyffredinol yn parhau i fod yn gyfredol. Pan fydd yr amgylchiadau’n caniatáu, byddwn unwaith eto’n cyflymu ein gwaith i wireddu ein llawn potensial fel sbardun i newid a gwelliant gwasanaethau cyhoeddus ac atebolrwydd democrataidd.

    Byddwn yn rhoi diweddariad manwl yn ein hadroddiad interim ar unrhyw newidiadau a wnawn i'r cynllun hwn o ganlyniad i'r sefyllfa pan gaiff ei gyhoeddi yn yr Hydref.

    ,
    Mae Archwilio Cymru yn bodoli i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda; esbonio sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a sut mae’n diwallu anghenion pobl; ac ysbrydoli a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella. Mae'r heriau y mae Covid-19 yn eu codi yn gwneud y genhadaeth honno'n bwysicach nag erioed. Mae'r cyfeiriad a ddisgrifir yn ein cynllun blynyddol yn sicrhau y byddwn yn cyfrannu, nid yn unig at y ffordd yr ymdrinnir â'r argyfwng yng Nghymru, ond at lunio'r gwasanaeth cyhoeddus yn y tymor hwy. Yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,

    Archwilio Cymru

    Ein huchelgais yw gwneud archwilio cyhoeddus yng Nghymru yn fwy hygyrch ac ystyrlon.

    Y llynedd, casglodd yr Archwilydd Cyffredinol adborth gan amryw o bobl yng Nghymru er mwyn deall beth oedd eu barn amdanom ni, ein gwaith a sut yr ydym yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu â hwy. Mewn ymateb i adborth, rydym yn gwneud gwelliannau i'r ffordd rydym yn cyflawni ein diben - i 'sicrhau, esbonio ac ysbrydoli '.

    Mewn ymateb i adborth rydym, gan ddechrau heddiw, yn dwyn ynghyd y gwahanol linynnau o'n gwaith o dan un hunaniaeth glir - o'r enw Archwilio Cymru. Dylai hyn helpu i gael gwared ar gymhlethdodau sy'n deillio o ddeddfwriaeth a dryswch ynghylch ein rhaglenni a mentrau amrywiol - mae rhai ohonynt yn deillio o Swyddfa Archwilio Cymru (ein Bwrdd statudol); rhai o Archwilydd Cyffredinol Cymru a rhai yn ymwneud â'n rhaglen Cyfnewidfa Arfer Da. Bydd hefyd yn sicrhau bod ein hunaniaeth yn cydymffurfio’n fwy unol â safonau'r iaith Gymraeg a hygyrchedd.

    Mae ein cynllun blynyddol yn adeiladu ar y momentwm a ddechreuwyd gennym y llynedd, a thros y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i weithio i wella ein gwefan, y ffordd rydym yn adrodd ar ein canfyddiadau a'r ffordd rydym yn ymgysylltu â phobl am yr hyn a wnawn.

    ,
    Mae'r Cynllun Blynyddol hwn yn adeiladu ar fomentwm y llynedd, ac mae'n symud ar garlam y cynlluniau i wireddu’r uchelgeisiau rydym wedi gosod i ni’n hunain. Bydd y newidiadau rydyn ni'n eu cyflwyno i wella'r ffordd rydyn ni'n rhedeg y busnes yn helpu Archwilio Cymru i gael llawer mwy o effaith a dylanwad ledled Cymru. Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, Isobel Everett
CAPTCHA