Canfuom fod y Cyngor wedi bodloni’r holl argymhellion a wnaethom yn ein hadroddiad yn 2021. Roedd yr wyth argymhelliad yn yr adroddiad yn cwmpasu trefniadau yn y meysydd canlynol: y gwasanaeth gwastraff gardd, Cwm Environmental Ltd (CWM) (y cwmi y mae'r Cyngor yn defnyddio ar gyfer gwaredu gwastraff), tipio anghyfreithlon, a strategaeth wastraff y Cyngor. Nodir ein canfyddiadau manwl yn Arddangosyn 1.