Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent – Adolygiad dilynol o Wasanaethau Iechyd yr Amgylchedd
14 Rhagfyr 2020
Roedd yr adolygiad hwn yn asesu a fu unrhyw newidiadau o ran cyllidebau a staff yng ngwasanaethau iechyd yr amgylchedd yn y Cyngor ac i ba raddau y mae wedi mynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gennym yn 2014?
Mae’r Cyngor wedi gwneud cynnydd o ran mynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed yn 2014. Mae cydweithio gyda CBS Torfaen hyd yma wedi cyfrannu at allu’r Cyngor i gyflawni â llai. Yn dilyn tynnu’n ôl o’r trefniant ym mis Tachwedd 2019 bydd y Cyngor yn wynebu pwysau ariannol a gweithredol ychwanegol a allai effeithio ar ei allu i barhau i ddarparu gwasanaethau iechyd yr amgylchedd i’r un safon