Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Ym mis Gorffennaf 2009, cysylltodd aelodau o'r gymuned leol a Chadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol â ni ar sail gohebiaeth debyg i ohebiaeth a anfonwyd at y pwyllgor. I grynhoi, y prif bryderon oedd bod yna fethiannau difrifol mewn cysylltiad â'r grant a ddyfarnwyd i Calon megis: dyfarnu grant a lywiwyd ar gyfer grwpiau cymunedol i gwmni preifat heb ymgynghoriad cymunedol cyn dyfarnu’r grant; bod llawer o'r wybodaeth a ddarparwyd i ategu'r cais am arian yn camarwain yn fwriadol, yn camliwio ac yn anghywir; nad oedd y broses grant yn dryloyw. Mewn ymateb i'r pryderon hyn rydym wedi ystyried a oedd yr arian cyhoeddus a ddyfarnwyd i Calon gan y Comisiwn yn briodol, yn ddiduedd ac yn unol â'r meini prawf y cytunwyd arnynt.