Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae’r GIG yng Nghymru yn rhoi tua 75 miliwn o bresgripsiynau gofal sylfaenol bob blwyddyn am feddyginiaeth sy’n costio tua £600 miliwn i gyd. Mae’r swm a wariwyd y pen o’r boblogaeth ar gyffuriau yn 2012 (£196) yn uwch nag yn Lloegr (£169) a’r Alban (£168). Hefyd, rhoddwyd nifer fwy o eitemau ar bresgripsiwn yng Nghymru yn 2012 nag yn yr un wlad arall yn y Deyrnas Unedig, sef 24 eitem y pen o’u cymharu â 15 yn 2002.