Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae'r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau gwaith asesu strwythuredig yr Archwilydd Cyffredinol yn 2020 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (y Bwrdd Iechyd). Mae'r gwaith wedi'i wneud i helpu i gyflawni gofyniad statudol yr Archwilydd Cyffredinol, o dan adran 61 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2014, i fod yn fodlon bod cyrff y GIG wedi gwneud trefniadau priodol i sicrhau economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau.
Yn gyffredinol, canfuom fod y Bwrdd Iechyd wedi addasu ei drefniadau llywodraethu yn gyflym i ymateb i heriau'r pandemig. Roedd rheolaeth ariannol yn parhau i fod yn her sylweddol ac ar adeg yr adolygiad cynyddodd costau COVID-19 y risg o ddiffyg ariannol ychwanegol. Mae dulliau cynllunio tymor byr yn helpu i ymateb i heriau uniongyrchol a chymhleth a grëir gan y pandemig, ond bydd angen dull gweithredu tymor hwy a mwy strategol ar gyfer adfer perfformiad.