Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae’r Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd cryf o ran gweithredu ein hargymhellion o 2022. Mae hyfforddiant rheoli risg wedi gwella, a cheir craffu cryfach ar gofrestrau risg corfforaethol. Mae’r Bwrdd Iechyd bellach yn adrodd fel mater o drefn ar ddarpariaeth a chanlyniadau o weithgarwch archwilio clinigol, ac mae adolygiadau o farwolaethau a phrosesau dysgu wedi gwella hefyd. Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi adolygu ei adnoddau llywodraethu ansawdd, wedi cryfhau arweinyddiaeth glinigol, ac wedi cynnig mwy o gyfleoedd hyfforddiant ansawdd i staff. Fodd bynnag, mae angen i’r Fframwaith Ansawdd a Diogelwch fod yn fwy eglur am drefniadau gweithredu, wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r strwythur sefydliadol newydd. Hefyd, ceir cyfleoedd o hyd i gryfhau craffu gweithredol ar gofrestrau risg, i ymwreiddio’r fframwaith gwerthoedd ac ymddygiadau ar lefel weithredu ac i wella trefniadau i staff godi pryderon. Mae angen atgyfnerthu presenoldeb clinigol mewn grwpiau ansawdd a diogelwch allweddol, ac mae angen i gyfraddau cydymffurfiad adolygiadau arfarnu perfformiad a datblygiad gynyddu hefyd i fodloni targedau. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd boddhaol o ran ymwreiddio’r dyletswyddau statudol o ansawdd a gonestrwydd. Mae mecanweithiau cynllunio strategol, ymrwymiad arweinyddiaeth, a llywodraethu ar waith. Fodd bynnag, mae angen i waith monitro’r niferoedd sy’n manteisio ar hyfforddiant staff ar y ddyletswydd o onestrwydd wella.
CAPTCHA