Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Cylch Gorchwyl Digwyddiadau

  • Cefndir

    Fe wnaeth Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (‘y Ddeddf’) sefydlu Swyddfa Archwilio Cymru fel corff corfforedig sy’n gyfrifol am: 

    • Ddarparu adnoddau i arfer swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr Archwilydd Cyffredinol), a
    • Monitro’r modd yr arferir swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol.

    O dan adran 19 y Ddeddf gall Swyddfa Archwilio Cymru hefyd ddarparu gwasanaethau gweinyddol, technegol neu broffesiynol ar gyfer cyrff cyhoeddus eraill trwy gytundeb.

    Pan fo Swyddfa Archwilio Cymru’n darparu seminarau a gweminarau dysgu ar y cyd a digwyddiadau eraill i gyrff a archwilir, gwneir hyn trwy gytundeb dan adran 19 y Ddeddf.

    Mae Archwilio Cymru yn nod masnach i Swyddfa Archwilio Cymru a hunaniaeth ymbarél Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ydyw.

    Presenoldeb a Chytundeb

    Mae staff cyrff a archwilir, ar ran y corff sy’n eu cyflogi, yn cytuno i gael gwasanaethau a ddarperir gan Swyddfa Archwilio Cymru trwy eu cofrestriad i fod yn bresennol yn un o ddigwyddiadau Archwilio Cymru, sy’n cyfeirio at y Cylch Gorchwyl hwn. Wrth gofrestru ar gyfer digwyddiad, mae staff yn cadarnhau eu bod wedi’u hawdurdodi i gytuno bod gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar ran eu cyflogwr a bod ganddynt ganiatâd i fod yn bresennol.

    Mae croeso hefyd i staff sefydliadau’r trydydd sector, elusennau a mentrau cymdeithasol neu gymdeithasau, a phersonau eraill â buddiant, fod yn bresennol mewn digwyddiadau lle mae digon o leoedd ar gael.

    Rydym fel arfer yn darparu digwyddiadau heb gost neu am gost isel iawn i’r rhai sy’n bresennol.

    Rydym yn egluro sut yr ydym yn trin data personol a ddarperir gan y rhai sy’n bresennol a chyfranwyr mewn hysbysiad prosesu teg y trefnir ei fod ar gael cyn y digwyddiad. Mae ein gwybodaeth gyffredinol am breifatrwydd ar gael ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru.

    Diben Digwyddiadau Archwilio Cymru 

    Mae digwyddiadau wedi’u bwriadu i:

    • hwyluso’r broses o rannu enghreifftiau o arfer da ac astudiaethau achos;
    • datblygu a chymhwyso gwersi o enghreifftiau o arfer da;
    • hwyluso datblygiad rhwydweithio a chydweithio cefnogol ar draws cyrff y sector cyhoeddus; a
    • helpu cyrff cyhoeddus i ystyried sut i wella arferion a chreu newid.

    Gall digwyddiadau fod ar ffurf

    • Seminar Dysgu ar y Cyd, sy’n cyfuno cyflwyniadau gan siaradwyr allweddol a gweithdai ymarferol, a hwylusir. Bydd seminarau’n cael eu cynnal mewn dau leoliad fel arfer, y naill yn Ne Cymru a’r llall yng Ngogledd Cymru.
    • Gweminar, sy’n cynnwys trafodaeth banel a hwylusir ac archwilio testun penodol gyda’r cyfle ar gyfer cyfraniadau a chwestiynau gan y gynulleidfa ar-lein.
    • Digwyddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru, megis cynhadledd ar gyfer niferoedd mwy o bobl, gyda chyflwyniadau gan siaradwyr allweddol a gweithdai a thrafodaethau a hwylusir.

    Trefnu Digwyddiadau

    Mae staff yn trefnu ac yn hwyluso digwyddiadau ar ran Swyddfa Archwilio Cymru, a all gynnwys cynadleddau, ymgysylltu, neu gyfarfodydd a digwyddiadau eraill, a gallant gael eu darparu’n unigol neu mewn cydweithrediad (neu ar y cyd) gyda chyrff cyhoeddus eraill a/neu sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus.

    Efallai y byddwn yn ymgynghori â chyfranwyr allanol wrth bennu cwmpas a datblygu digwyddiadau, ac efallai y byddwn yn eu gwahodd i siarad ac ateb cwestiynau yn y digwyddiad.

    Rhoddir cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru, trwy ei blog a’i ffrwd Twitter i gyrff a archwilir, y gall eu staff gyfranogi mewn digwyddiadau, awgrymu syniadau ar eu cyfer a chyfrannu iddynt.

    Cyhoeddusrwydd a’r Cyfryngau Cymdeithasol

    Mae blog a chyfrif Twitter gan Archwilio Cymru a bydd yn ysgrifennu am ddigwyddiadau cyn y digwyddiad i roi cyhoeddusrwydd iddynt ac ennyn diddordeb. Efallai y byddwn hefyd yn gwahodd cyfranwyr i ysgrifennu ar gyfer blog.

    Yn ystod digwyddiadau mae’r tîm cyfathrebu’n annog y rhai sy’n bresennol a chynulleidfaoedd ar-lein i drydar cwestiynau, barn a negeseuon allweddol ac efallai y bydd yn rhannu’r rhain trwy gyfrif Twitter y Gyfnewidfa Arfer Da.