Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae cost benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr yn fwy nag £1 biliwn y flwyddyn
Mae Llywodraeth Cymru yn honni mai ei phecyn cymorth ariannol hi yw’r mwyaf hael yn y DU a’i nod yw helpu pobl o bob cefndir i fynd i’r brifysgol
Gall myfyrwyr cymwys gael gafael ar gymysgedd o gymorth trwy fenthyciad a grant i dalu gostau byw a ffioedd dysgu yn y brifysgol. Mae’r cymorth gyda chostau byw sydd ar gael i fyfyriwr yn dibynnu’n rhannol ar incwm ei aelwyd.
Mae ad-daliadau ar fenthyciadau’n dechrau unwaith y mae enillion cyn-fyfyrwyr uwchlaw trothwy penodol ac maent yn seiliedig ar faint mae myfyrwyr yn ei ennill yn hytrach na faint o arian y mae arnynt. Mae cyn-fyfyrwyr yn gwneud ad-daliadau nes bod y ddyled (a’r llog) wedi’i had-dalu’n llawn, neu nes bod y ddyled yn cael ei dileu ar ôl 30 mlynedd. Dyled gyfartalog cyn-fyfyrwyr â gweddill benthyciad i’w dalu ar ddiwedd 2020-21 oedd £27,600.
Dengys ein hadroddiad ni fod cost benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr yng Nghymru wedi cynyddu 35% ers 2015-16, gan gyrraedd bron i £1.1 biliwn yn 2019-20. Mae cyfanswm gwerth benthyciadau sy’n ddyledus i Lywodraeth Cymru wedi cynyddu’n gyson hefyd i £5.3 biliwn yn 2019-20.
Ni fydd Llywodraeth Cymru’n cael popeth sy’n ddyledus iddi mewn benthyciadau yn ôl. Mae newidiadau i’r pecyn cymorth wedi golygu bod myfyrwyr yn cymryd benthyciadau mwy sy’n llai tebygol o gael eu had-dalu’n llawn. Ar ddiwedd 2019-20, roedd Llywodraeth Cymru’n amcangyfrif, am bob £1 a oedd yn dal heb ei thalu’n ôl mewn benthyciadau i fyfyrwyr, y byddai’n adennill 65c.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn talu ychydig dros £20 miliwn y flwyddyn i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i weinyddu cyllid myfyrwyr yng Nghymru ac mae’n gwneud gwaith da o ran rheoli cyllid myfyrwyr o ddydd i ddydd. Mae ganddi berthnasoedd da â’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr a llywodraethau eraill y DU sydd, gyda’i gilydd, yn cytuno ar flaenoriaethau ar gyfer y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ac yn adolygu ei berfformiad ar y cyfan. Ond mae’r tîm yn Llywodraeth Cymru sy’n rheoli’r perthnasoedd hyn yn fach ac rydym yn argymell camau gweithredu i leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â dibynnu ar nifer mor fach o aelodau o staff.
Rydym hefyd yn amlygu rhai cyfyngiadau o ran y ffordd y mae Llywodraeth Cymru’n craffu ar y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, o ystyried y symiau mawr o arian sy’n gysylltiedig. Er bod Llywodraeth Cymru wedi gwella’i defnydd o ddata sy’n ymwneud yn benodol â Chymru ar berfformiad y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, rydym yn argymell gwelliannau pellach i’r drefn o fonitro perfformiad, gan bod angen i Lywodraeth Cymru adrodd ar ddata tuag i fyny trwy ei strwythur llywodraethu i ystyried a yw’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn sicrhau gwerth am arian. Hefyd, mae cyfle i gynnwys myfyrwyr mewn modd mwy ystyrlon wrth gynllunio a monitro’r drefn ar gyfer gweinyddu cyllid myfyrwyr.
Rydym yn cyhoeddi’r adroddiad hwn pan fydd llawer o’n pobl ifanc yn paratoi i fynd i mewn i addysg uwch am y tro cyntaf. Mae sicrhau bod myfyrwyr yn deall y cymorth ariannol a gynigir a’u bod yn gallu cael gafael arno’n rhwydd yn hollbwysig. Mae’r symiau sy’n gysylltiedig ar y cyfan a’r angen i ragweld ad-daliadau ar fenthyciadau’n golygu bod cyllid myfyrwyr yn nodwedd bwysig yng nghyfrifon blynyddol Llywodraeth Cymru. Felly mae ein canfyddiadau ni am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru’n rheoli cyllid myfyrwyr yn dda i’w gweld. Ond o ystyried y symiau cysylltiedig, dylai gryfhau’r modd y mae’n craffu ar berfformiad y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, sicrhau bod anghenion a phrofiadau myfyrwyr o Gymru’n ganolog i’w phrosesau penderfynu, ac ystyried gwerth am arian y gwasanaethau y mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn eu darparu ar ei rhan.