-
Uwch Archwilydd - Perfformiad (Cymraeg Hanfodol)£41,484 - £48,155Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.Cymru
Ynglŷn â'r swydd hon
Hysbysebir y swydd yn un lle mae’r Gymraeg yn hanfodol.
A ydych yn chwilio am ffordd o helpu i lunio a gwella gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru? A oes gennych sgiliau ymchwil gyda phrofiad o werthuso perfformiad gwasanaethau, llywodraethu ac atebolrwydd? Os felly, yna gallech chi fod y person rydym yn chwilio amdano i ymuno â'n tîm archwilio perfformiad.
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn gyfrifol am helpu i lunio a chyflwyno ystod o waith archwilio perfformio ar draws ein cleientiaid llywodraethu lleol yng Ngogledd Cymru. Byddwch yn rhan o sefydliad sydd â chyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n edrych ar effeithiolrwydd darparu gwasanaethau.
Yn ogystal ag ategu eich tîm archwilio perfformiad, os oes gennych gymhwyster cyfrifeg perthnasol, byddwn yn ceisio'ch lleoli yn ein gwaith archwilio sy'n ymwneud â chyfrifon, gan roi cyfle i chi weithio ar draws gwahanol archwiliadau ac mewn gwahanol dimau fel rhan o'ch twf ehangach a'ch datblygiad sefydliadol.
O ran gofynion penodol, darllenwch y disgrifiad swydd.
Canfuwch fwy
Ceir rhagor o wybodaeth am y prif gyfrifoldebau a'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y swyddi hyn yn y disgrifiad swydd canlynol: Am drafodaeth anffurfiol ar y rôl cysylltwch â Jeremy Evans ar 02920 320500
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 29 Mai 2022.
Wrth wneud cais ar-lein cofiwch bwyso'r botwm parhau ar ôl cyflwyno'ch cais – unwaith y byddwch wedi gwneud hyn fe gewch gydnabyddiaeth i gadarnhau bod eich cais wedi'i gyflwyno. Os na chewch gydnabyddiaeth, cysylltwch ârecriwtio@archwilio.cymru.
Gweithio i ni
Mae Archwilio Cymru yn lle hwyliog a chyfeillgar i weithio ynddo, gyda diwylliant hynod gefnogol. Mae gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol yn hollbwysig inni. Yn Archwilio Cymru, rydym heb os yn gofalu am ein pobl ac yn darparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith. Rydym yn gyflogwr balch o ran Teuluoedd sy'n Gweithio ac yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig. Mae ein lwfans gwyliau blynyddol hael, ein polisïau gweithio sy'n ystyriol o deuluoedd a hyblyg yn rhai o'r rhesymau pam ein bod yn lle gwych i weithio ynddo.
Rydym hefyd yn eiriolwyr dros ddatblygiad personol a phroffesiynol, a dyna pam rydym yn cynnig digonedd o gyfleoedd dysgu a datblygu, yn ogystal â darparu trwyddedau Dysgu LinkedIn i'r holl staff.
Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau a'r safbwyntiau y byddant yn eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog pawb i wneud cais, gan gynnwys grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd megis pobl o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig a phobl anabl.
Mae Archwilio Cymru yn gyflogwr hyblyg.