Ffeithiau allweddol: Cyllid GIG Cymru 2020-21
Barn yr Archwilydd Cyffredinol yw bod y datganiadau ariannol yn rhoi darlun Gwir a Theg o gyllid GIG Cymru.
Fodd bynnag, mae pedwar bwrdd iechyd lleol wedi methu â chyflawni eu dyletswydd ariannol i fantoli'r sefyllfa dros gyfnod o dair blynedd.
Mae Cyfrifon Cryno'r GIG (Cymru) yn nodi canlyniadau ariannol cyfunol pob un o'r 11 corff GIG yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021. Mae'r rhain yn cynnwys saith bwrdd iechyd lleol, tair ymddiriedolaeth GIG ac un awdurdod iechyd arbennig.
Prif Bwyntiau

Dyma'r ail flwyddyn i gyllid GIG Cymru ddod ynghyd mewn un set o gyfrifon, ar ôl cael ei gyflwyno fel hyn am y tro cyntaf yn 2019-20.

Fe wnaeth dau fwrdd iechyd yng Nghymru orwario am y bumed flwyddyn yn olynol. Rhywfaint o gynnydd cadarnhaol, gyda diffyg GIG Cymru yn gostwng o £89 miliwn yn 2019-20 i £48 miliwn yn 2020-21.

£1.3 biliwn oedd y cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i GIG Cymru ar gyfer gwariant sy'n gysylltiedig â COVID-19 hyd at 31 Mawrth 2021. Mae maint y gwariant yn 2020-21 yn ddigynsail. Mae ein teclyn data yn dangos sut mae hyn ac incwm a gwariant arall yn cael eu dadansoddi Link [Agorir mewn tab newydd]
Cyllido a Gwario
Ysbyty, cymuned a gwasanaethau arbennig | £6.9 biliwn |
---|---|
Costau cyflogai | £4,670 miliwn |
Cyflenwadau a gwasanaethau | £1,033 miliwn |
Costau eraill | £841 miliwn |
Safleoedd | £388 miliwn |
Gwasanaethau gofal iechyd cychwynnol | £1.6 biliwn |
---|---|
Taliadau i meddygon teulu | £590 miliwn |
Costau cyffuriau wedi'u gweinyddu | £569 miliwn |
Taliadau i ddeintyddion | £172 miliwn |
Taliadau i fferyllwyr | £139 miliwn |
Arall | £47 miliwn |
Taliadau i offthalmolegwyr | £43 miliwn |
Gofal iechyd gan ddarparwyr eraill | £1.1 biliwn |
---|---|
Gofal parhaol | £416 miliwn |
Cyrff y GIG y tu allan i Gymru | £311 miliwn |
Awdurdodau lleol | £186 miliwn |
Darparwyr preifat | £78 miliwn |
Sefydliadau gwirfoddol | £52 miliwn |
Gofal nyrsio wedi'i ariannu gan y GIG | £49 miliwn |
Costau Staff
£4.8 billionSwydd | Nifer o staff | Cost |
---|---|---|
Staff parhaol | 84,513 | £4,475 miliwn |
Staff asiantaeth | 2,292 | £157 miliwn |
Staff hyfforddiant arbenigol | 690 | £36 miliwn |
Arall | 590 | £69 miliwn |
Staff secondiad mewnol | 326 | £25 miliwn |
Yr hyn y maent yn berchen arno
£5.6 billionYr hyn sy'n ddyledus ganddynt
£2.8 billionDyletswyddau Ariannol
Dyletswyddau Ariannol wedi'u bodloni:







Dyletswyddau Ariannol heb eu bodloni:
...with accumulated deficits of £235 million over the last three years




Pwyntiau eraill i'w hamlygu


