Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Sut ydym yn cyflawni ansawdd archwilio

Adroddiad Ansawdd Archwilio 2024

Mae disgwyliadau ynghylch ansawdd archwilio’n parhau i gynyddu. 

I sicrhau archwilio o ansawdd da mae angen timau ymrwymedig sy'n cymryd cyfrifoldeb personol am gyflawni ansawdd archwilio ac sy'n cael eu cefnogi yn y ffordd iawn. Mae ein ffocws di-baid ar dryloywder, atebolrwydd a gwella’n barhaus yn ailddatgan ein hymroddiad i feithrin ymddiriedaeth a hyder yn ein gwasanaethau archwilio. 

Mae safonau rheoli ansawdd rhyngwladol1 yn rhoi pwyslais mawr ar integreiddio ansawdd archwilio yn ein diwylliant, ein strategaeth, ein gweithgareddau gweithredol a’n holl brosesau busnes. 

Rhaid i ni greu amgylchedd sy'n galluogi ac yn cynorthwyo timau i gyflawni archwiliadau o ansawdd da. Felly, mae angen i ni fod yn rhagweithiol wrth ymateb i newidiadau yn natur ac amgylchiadau Archwilio Cymru a'n harchwiliadau.

 

Ein model tair llinell sicrwydd

Rydym yn defnyddio model tair llinell sicrwydd i ddangos sut yr ydym yn gwireddu ein hymrwymiad i ansawdd archwilio.

Y llinell sicrwydd gyntaf yw ein staff a'n rheolwyr sy'n gyfrifol yn unigol ac ar y cyd am gyrraedd y safonau ansawdd archwilio yr ydym yn dyheu amdanynt. Mae angen iddynt fod â’r wybodaeth, y sgiliau a'r cymorth angenrheidiol i wneud hyn.

Yr ail linell sicrwydd: trefniadau ar gyfer cyflawni ansawdd archwilio

Yr ail linell sicrwydd yw’r polisïau, yr offer, y dysgu a datblygu, y canllawiau a'r arweinyddiaeth a ddarparwn i'n staff i'w cynorthwyo i gyrraedd y safonau hynny o ran ansawdd archwilio.

Y drydedd linell sicrwydd: sicrwydd annibynnol

Y drydedd linell sicrwydd yw’r gweithgareddau hynny sy'n rhoi sicrwydd annibynnol dros effeithiolrwydd y ddwy linell sicrwydd gyntaf ac yn helpu i adnabod cyfleoedd i wella’n barhaus.

Rhoi’r Safon Ryngwladol ar Reoli Ansawdd (ISQM 1) ar Waith

Mae ISQM1 yn ymdrin â chyfrifoldebau cwmni (gan gynnwys Archwilio Cymru) i ddylunio system rheoli ansawdd (SoQM) ar gyfer archwiliadau, ei rhoi ar waith a’i gweithredu.

Fe wnaeth ISQM1 hi’n ofynnol i gwmnïau roi SoQM ar waith erbyn 15 Rhagfyr 2022 yn seiliedig ar yr elfennau canlynol:

  • proses asesu risg
  • llywodraethu ac arweinyddiaeth
  • gofynion moesegol perthnasol
  • derbyn a pharhau â pherthnasoedd â chleientiaid ac ymrwymiadau penodol
  • perfformiad ymrwymiadau
  • adnoddau
  • gwybodaeth a chyfathrebu
  • y broses monitro ac adfer.

Mae elfennau ISQM 1 yn adlewyrchu’n fras yr elfennau o’n model tair llinell sicrwydd a ddisgrifir uchod.

Mae ISQM 1 yn ei gwneud yn ofynnol i ni gynnal gwerthusiad blynyddol o effeithiolrwydd y system rheoli ansawdd, i ddechrau erbyn 15 Rhagfyr 2023.

Goleuwyd ein gwerthusiad gan amryw weithgareddau, gan gynnwys gweithdai asesu risg, monitro ein cofrestrau risgiau, deilliannau adolygiadau o ansawdd ffeiliau archwilio, ymarferion dadansoddi achosion sylfaenol ac ymgynghori â’r tîm Datblygu a Chanllawiau Archwilio ar faterion archwilio.

Roedd ein casgliad ar y cyfan fel a ganlyn: “Mae’r system rheoli ansawdd yn darparu sicrwydd rhesymol ar gyfer y cwmni bod amcanion y system rheoli ansawdd yn cael eu cyflawni.”

Cyflwynwyd y casgliad hwn i’r Pwyllgor Ansawdd Archwilio a’r Tîm Arwain Gweithredol yn gynnar yn 2024.

Er mai ein gwerthusiad ar y cyfan oedd bod ein SoQM yn darparu ‘sicrwydd rhesymol’ bod ei hamcanion yn cael eu cyflawni, roedd rhai meysydd lle’r oedd angen datblygu, ac mae camau gweithredu ar y gweill. Un o elfennau blaenllaw ein canfyddiad oedd gwreiddio’r safon fel ‘busnes fel arfer’ yn hytrach na’i bod yn cael ei rheoli fel ymarfer ar wahân.

Mae’r trefniadau ansawdd cyfredol yn Archwilio Cymru’n adlewyrchu’r pwyslais cryf y mae’r Archwilydd Cyffredinol a’i Dîm Arwain Gweithredol yn ei roi ar ansawdd y gwaith a gynhyrchir. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Ansawdd, crëwyd argraff enfawr arnaf gab lefel yr ymrwymiad a’r ymroddiad a ddangosir gan y staff i gyflawni gwaith archwilio o ansawdd da. Suzanne Jones, Cyfarwyddwr – Swyddfa Archwilio Gogledd Iwerddon Cadeirydd – Y Pwyllgor Ansawdd Archwilio yn Archwilio Cymru