Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Adroddiad Ansawdd Archwilio 2024

ein pobl

Ein pobl

Mae bod â’r staff cywir sydd â digon o amser i wneud gwaith archwilio’n hanfodol i gyflawni ansawdd archwilio. Mae'r un mor hanfodol bod y staff hynny’n mabwysiadu dull ymholgar a sgeptigol ac yn derbyn cyfrifoldeb personol am ansawdd eu gwaith eu hunain.

Rydym yn gweithredu prosesau recriwtio wedi'u diffinio'n dda i sicrhau bod gan ein holl staff y cymhwysedd a'r galluoedd angenrheidiol i wneud eu gwaith. Ar gyfer gwaith archwilio cyfrifon, rydym wedi sefydlu llwybrau mynediad proffesiynol gydag ymgeiswyr newydd yn ymuno naill ai fel prentisiaid AAT neu hyfforddeion ICAEW. Ar gyfer gwaith archwilio perfformiad, mae ein proses recriwtio’n cynnwys asesiad strwythuredig o sgiliau a phrofiad yr ymgeisydd.

Ym mis Gorffennaf 2024, fe wnaethom gwblhau Cynllun Strategol newydd ar gyfer y Gweithlu sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2024 a mis Mehefin 2027. Yn erbyn ystod eang o heriau allanol a mewnol, mae’r Cynllun yn nodi blaenoriaethau Archwilio Cymru o ran y gweithlu am y tair blynedd nesaf i gefnogi gwaith archwilio o ansawdd da. Yn y flwyddyn gyntaf, bydd y Cynllun yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau canlynol:

  • rheoli talent a chynllunio ar gyfer olyniaeth
  • datblygu sgiliau
  • ol-groniad o ran cyflawni – recriwtio, cadw, cynyddu capasiti
  • dyluniad y sefydliad, rolau a darparu adnoddau

Ar gyfer yr holl waith archwilio cyfrifon, rydym yn neilltuo cyfrifoldeb i arweinydd ymrwymiad sy'n gyfrifol am gyfeiriad cyffredinol y gwaith hwnnw ac am sicrhau bod y tîm archwilio’n meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i wneud y gwaith. Mae'r arweinydd ymrwymiad hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod aelodau'r tîm archwilio’n cael yr oruchwyliaeth gywir a'r cymorth cywir i wneud eu gwaith. Mewn gwaith archwilio perfformiad, mae'r cyfrifoldebau hyn fel arfer yn cael eu cyflawni gan y sawl a neilltuwyd i rôl yr ail adolygydd, cyfarwyddwr neu reolwr.

Bydd adegau lle mae agweddau ar ein gwaith yn cynnwys meysydd arbenigol iawn. Yn yr achosion hyn, rydym yn ymgysylltu ag arbenigwyr allanol digon cymwys i roi cymorth ychwanegol ar gyfer ein gwaith. Mewn gwaith archwilio cyfrifon mae hyn yn cynnwys adolygu tybiaethau actiwaraidd ar gyfer pensiynau a phrisiadau eiddo

Mewn gwaith archwilio perfformiad, rydym yn ymgysylltu’n fynych ag arbenigwyr a sefydliadau ag arbenigedd perthnasol i oleuo ein gwaith, gan gynnwys ein meini prawf archwilio. Er enghraifft, fel rhan o’n gwaith ar arallgyfeirio incwm ar gyfer Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru fe wnaethom ymgysylltu â swyddogion o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol eraill yn y Deyrnas Unedig i adnabod dulliau amgen. Fe wnaethom hefyd ddefnyddio arfer da ar reoli rhaglenni a rheoli risg o ffynonellau gan gynnwys Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) i ddatblygu ein meini prawf archwilio ar gyfer Tai Fforddiadwy.

Rydym yn cydweithio’n agos gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i gydlynu ein priod raglenni gwaith a rhannu gwybodaeth ac arbenigedd. Er enghraifft, mae tîm y Comisiynydd wedi rhoi hyfforddiant a chyngor ac wedi goleuo datblygiad meini prawf archwilio. Rydym hefyd yn rhannu ein mewnwelediadau a’n canfyddiadau archwilio gyda’r Comisiynydd yn rheolaidd. Roedd hyn yn cynnwys ymgysylltu wrth iddo ddatblygu ei strategaeth a’i raglen waith.

Mae’r amgylchedd y mae’r cyrff a archwilir gennym yn gweithredu ynddo’n dod yn fwyfwy cymhleth o ganlyniad i ofynion safonau proffesiynol; effaith yr argyfwng hinsawdd; trawsnewid digidol; a waethygir gan y rhagolygon heriol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Fel archwilwyr mae angen i ni allu ymateb i’r heriau hyn a sicrhau ein bod yn parhau i gael digon o dystiolaeth archwilio briodol, sy’n cynnwys cael cyngor arbenigol gan arbenigwyr megis actiwariaid a phriswyr. Kate Havard, Rheolwr Archwilio