Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Yn 2013, fe wnaethom edrych ar drefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon, gan weithio gydag Estyn – sef arolygiaeth ysgolion Cymru. Rydym yn asesu’r sefyllfa ddiweddaraf ac effaith rhai o’r camau gweithredu hyn yn ein hadroddiad dilynol.
Mae angen lleihau effaith absenoldeb athrawon o’r ystafell ddosbarth er mwyn lleihau’r effaith y mae hyn yn ei chael ar ddysgwyr.
Rydym wedi canfod bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i gefnogi staff cyflenwi, mynd i’r afael ag achosion sylfaenol absenoldeb athrawon, gwella’r broses o reoli absenoldeb, a mynd i’r afael â rhai pryderon allweddol ynghylch contractau asiantaeth. Fodd bynnag, mae bylchau mewn data yn golygu ei bod yn dal yn anodd dweud a yw rhai o’r camau hyn yn cael yr effeithiau a fwriedir.
Ataliwyd ysgolion rhwng 20 Mawrth ac 28 Mehefin 2020 oherwydd pandemig COVID-19.
Cafodd athrawon cyflenwi cymwys a oedd yn gweithio i asiantaethau ar y fframwaith cenedlaethol eu rhoi ar ffyrlo drwy gynllun cadw swyddi Llywodraeth y DU ac roedd Llywodraeth Cymru yn disgwyl i gynghorau ac ysgolion barhau i dalu’r rhai a gyflogwyd yn uniongyrchol hyd at ddiwedd eu contractau.
Mae’r pandemig wedi tarfu ar y gweithlu ac asiantaethau cyflenwi, ond nid yw’r effaith hirdymor yn hysbys hyd yn hyn.
Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y gallai staff cyflenwi er mwyn rhyddhau staff i baratoi ar gyfer cyflwyniad y cwricwlwm newydd gostio £10.8 miliwn yn 2020-21.
Nid ydym yn glir a oes digon o athrawon cyflenwi gweithredol ar gael i wneud hyn, yn enwedig gan ei bod yn debygol y bydd galw am staff ar gyfer y fenter recriwtio, adfer a chodi safonau.
Mae’r lefel absenoldeb oherwydd salwch uwch na’r cyfartaledd neu staff yn hunanynysu oherwydd pandemig COVID-19 yn her newydd arall i’w goresgyn wrth gyflwyno’r cwricwlwm newydd.
Mae ysgolion cyfrwng Cymraeg yn debygol o gael problemau, gan eu bod yn dweud yn aml ei bod yn anodd cyflogi athrawon cyflenwi. Mae’n debygol hefyd y bydd prinder athrawon cyflenwi mewn rhai pynciau mewn ysgolion eraill.