
-
Arallgyfeirio Incwm ar gyfer Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng…
-
Dulliau o sicrhau sero net ledled y DU
-
Llamu Ymlaen: Gwersi o'n gwaith ar y gweithlu ac asedau
-
Offeryn Data Cyllid GIG Cymru - hyd at Mawrth 2023
-
Methiannau mewn rheolaeth ariannol a threfniadau llywodraethu –…
Paratowyd yr adroddiad hwn er budd y cyhoedd yn unol ag Adran 22 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol er budd y cyhoedd wedi nodi bod Cyngor Tref Rhydaman wedi methu â chydymffurfio â'r gofynion statudol ar gyfer cymeradwyo ei gyfrifon blynyddol ers 2016-17.
Mae ein hadroddiad yn nodi diffygion sylweddol mewn rheolaeth ariannol a llywodraethu yng Nghyngor Tref Rhydaman sydd wedi golygu ei fod wedi methu â rhoi cyfrif priodol am bron i £800,000 o arian a godwyd gan drethdalwyr lleol drwy'r dreth gyngor.
Nid yn unig y gwnaeth y Cyngor ddiystyru ein canfyddiadau archwilio cychwynnol ond hefyd ni chymerodd gamau priodol i ddiffygion a nodwyd gan ei archwilydd mewnol ei hun.
Mae gwersi i'w dysgu nid yn unig gan y Cyngor hwn, ond gan bob cyngor cymuned yng Nghymru.
Related News
