Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Cynhaliwyd asesiad o gynnydd y Cyngor wrth ymateb i ofynion allweddol Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 rhwng mis Ebrill a mis Awst 2022.
Casglwyd ein tystiolaeth drwy adolygu dogfennau a chynnal cyfweliadau.Gwnaethom hefyd ddefnyddio canfyddiadau perthnasol o'n gwaith parhaus a diweddar arall yn y Cyngor.
Roedd ein gwaith yn edrych ar y trefniadau yr oedd y Cyngor yn eu rhoi ar waith wrth ymateb i'r Ddeddf. Nid asesiad o effeithiolrwydd y trefniadau hyn oedd y gwaith.
Mae'r Cyngor wedi drafftio ei hunanasesiad blynyddol cyntaf a bydd yn ei gyflwyno mewn cyfarfod o'r Cyngor llawn yn ystod hydref 2022.
Nid yw'r Cyngor wedi cadarnhau eto ei gynlluniau ar gyfer cwblhau asesiad perfformiad y panel allanol, ond mae’n credu y bydd yn digwydd yn ail hanner tymor y Cyngor hwn.