clawr generig gyda brandio a logo Archwilio Cymru
Cyngor Sir Gâr – Adolygiad Dilynol: Gwasanaethau Cynllunio
17 Hydref 2022

Ym mis Gorffennaf 2021 fe gyhoeddwyd ein hadroddiad Review of Planning Services yng Nghyngor Sir Caerfyrddin. Ein canfyddiad cyffredinol yn yr adolygiad hwnnw oedd bod angen mynd i'r afael ar frys â materion perfformiad sylweddol a hirsefydlog yn y gwasanaeth cynllunio er mwyn helpu i gefnogi'r gwaith o gyflawni uchelgeisiau'r Cyngor. Roedd ein hadroddiad yn cynnwys 17 argymhelliad i'r Cyngor fynd i'r afael â nhw. Daw'r adroddiad hwn yn dilyn y camau y mae'r Cyngor yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r argymhellion hynny.

Canfuom fod y Cyngor wedi cymryd camau pendant, cyflym mewn ymateb i ganfyddiadau ein hadroddiad yn 2021. Ein canfyddiad cyffredinol o'r adolygiad hwn yw bod y Cyngor wedi llwyddo i fynd i'r afael â'n holl argymhellion ac wedi ymateb yn gyflym i sicrhau gwelliannau sylweddol yn ei wasanaeth cynllunio.

Pecyn cymorth

Hoffem gael eich adborth