Wrth i’r byd symud yn ei flaen, gan ddysgu o’r pandemig byd-eang, fe wnaeth yr adolygiad hwn ystyried sut y mae’r Cyngor yn cryfhau ei allu i drawsnewid, addasu a pharhau i ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys y rhai a ddarperir mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol a chymunedau.
Mae’r Cyngor yn gweithio’n frwd ar ei brosiect Trefniadau Gweithio i’r Dyfodol ac yn datblygu’r weledigaeth a chynlluniau ar draws yr holl wasanaethau ond bydd edrych ymhellach i’r dyfodol yn cryfhau ystyriaeth y Cyngor i’r egwyddor datblygu cynaliadwy.