Ein bwriad yn wreiddiol oedd y dylai ein hadolygiad ateb y cwestiwn: ‘A yw’r Cyngor yn gwella’i drefniadau llywodraethu fel eu bod yn ategu ei agenda drawsnewid’?
Fodd bynnag, oherwydd yr amgylchiadau a nodwyd ym mharagraffau 5 a 6, yn lle hynny rydym wedi rhoi ffocws mwy cul ar gadernid trefniadau’r Cyngor i gyflawni ei Strategaeth Drawsnewid.
Ar y cyfan, canfuom nad yw agweddau ar drefniadau’r Cyngor wedi datblygu’n ddigon da eto i ategu graddfa gynyddol rhaglen drawsnewid eang y Cyngor.