Yn 2020-21 fe wnaethom gynnal adolygiad o gydnerthedd corfforaethol ym mhob Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru i ddarparu sicrwydd ynghylch pa mor dda y mae pob Awdurdod yn mynd i’r afael â’r heriau ariannol a’r heriau o ran capasiti sy’n wynebu cyrff cyhoeddus.
Mae’r adroddiad hwn yn nodi casgliadau ein hadolygiad ac yn gwneud cynigion ynghylch sut y gellir cryfhau cydnerthedd a chynaliadwyedd yn Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Ar y cyfan, canfuom fod yr Awdurdod wedi dangos ei gydnerthedd byrdymor ond bod angen iddo wneud rhai penderfyniadau mawr i barhau i fod yn gydnerth yn y dyfodol.