clawr generig efo brandio a logo Archwilio Cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Adolygiad o Drefniadau Cynllunio’r Gweithlu
Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (y Bwrdd Iechyd) yn wynebu heriau sylweddol o ran y gweithlu. Yn benodol, roedd cyfraddau swyddi staff gwag yn uchel ar draws ystod o wasanaethau a phroffesiynau ac roedd materion gyda recriwtio a chadw staff. Mae’r materion hyn yn rhoi mwy o bwysau ar aelodau presennol o staff o ran eu llwyth gwaith ac yn achosi i wasanaethau ddod yn fwyfwy bregus.
Ar y cyfan, canfuom fod y Bwrdd Iechyd yn canolbwyntio’i ymdrechion yn glir ar ei heriau sylweddol o ran y gweithlu ac yn cymryd camau pragmatig i helpu i leihau risgiau. Fodd bynnag, mae angen iddo fynd ati ar frys i ddatblygu cynllun gweithredu eglur a chyfunol ar gyfer y gweithlu a mesur yr effaith y mae’n ei chael i helpu i fynd i’r afael â’r heriau sylweddol o ran y gweithlu y mae’n eu hwynebu.

Hoffem gael eich adborth

CAPTCHA